Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salmau 12

12
SALM XII.
11au.
I’r Pencerdd, ar Seminith, Salm Dafydd.
1O Arglwydd! Achubydd! tosturia, mae’n bryd,
Can’s darfu y dynion trugarog o’r byd;
Ffyddloniaid sy’n pallu yn un ar ol un
O blith meibion dynion; mae’r helynt yn flin.
2Oferedd a dd’wedant bob un wrth ei frawd;
A gwefus wenieithgar, llefarant mewn gwawd;
3Tòr ymaith, O Arglwydd! wefusau sarhaus,
Y galon ddauddyblyg, a’r tafod trofaus.
4Y rhai a ryfygus ymffrostiant, gan ddweyd,
A’n tafod gorfyddwn, fel mynom cawn wneyd;
Ni pïau’n gwefusau, a phwy ond nyni?
Pwy arall sydd arnom yn Arglwydd a Rhi?
5O herwydd trueni’r cystuddiol ei fyd,
O herwydd ochenaid y tlodion ynghyd,
Cyfodaf yn awr, medd yr Arglwydd, gwnaf farn,
Gwaredaf drueiniaid a fathrwyd yn sarn.
6Holl eiriau yr Arglwydd ynt burion a glân,
Fel arian a goethwyd mewn ffwrnes o dân,
Yr hwn burwyd seithwaith, mae’n burdeb i gyd —
A’r Arglwydd a’i ceidw rhag dynion y byd.
7Fe geidw’n dragywydd ei bobl ei hun
Rhag llid eu gelynion a’u malais gyttûn,
8A’r holl annuwiolion, pan welant hwy hyn,
A rodiant o amgylch gan edrych yn syn.
Nodiadau.
Ar Seminith; h. y., wythawd:— cân i’w dadgan ar delyn wythdant, un o’r offerynau cerdd a ddefnyddid yn addoliad y tabernacl. Pan drefnodd Dafydd ddosbarthiadau cantorion y cyssegr, efe a drefnodd ei salmau yn ddosbarthiadau i’w canu ar dônau ac offerynau cerdd pennodol. Salm achwyngar iawn yw hon: y mae ei hysbryd a’i lleferydd yn debyg iawn i’r eiddo Elias wedi hyn, “pan oedd efe yn erfyn ar Dduw yn erbyn yr Israel,” ac yn haeru, fel Dafydd yma, fod y ffyddloniaid wedi pallu o blith meibion dynion, ac mai efe ei hun yn unig a adawsid. Siomedigaethau mewn dynion a gymmerent arnynt fod yn gyfeillion caredig iddo, ac a brofent drachefn mai bradwyr maleisus oeddynt, a fu yn achlysur o gyfansoddi y salm. Dichon mai dynion o’r fath hyny, y daethai i gydnabyddiaeth â hwy pan yr oedd efe yn llys Saul, a olygir yn benaf: dynion a fedrent ymffrostio yn eu medrusrwydd i dwyllo, a dywedyd celwydd i fachellu rhai diniwed — dynion wedi tori ymaith bob ofn a chydwybod i Dduw a’r gwirionedd. Y mae dynion felly yn y byd yn mhob oes a gwlad. Gweddïa y Salmydd am i’r cymmeriadau peryglus hyn gael eu distrywio o blith dynion, gan eu bod yn bla ofnadwy mewn cymdeithas; a phrophwyda y byddai i’r distryw hwnw eu goddiweddyd yn sicr — fod geiriau Duw ar y mater hwnw, fel ar bob mater arall, yn “eiriau purion,” coethedig, yn sicr o gael eu cyflawni; ac nid fel geiriau y gwenieithwyr ffeilsion hyny.
Cysura y Salmydd ei hun, a’r trueiniaid oedd yn cyd‐ddioddef ac yn cydocheneidio gydag ef, o herwydd ystâd isel a thruenus crefydd a moesau yn y wlad y pryd hwn, â’r sicrwydd y byddai i’r Arglwydd, yn ol ei addewid yn ei Air, wrandaw a gwaredu ei drueiniaid oedd yn ocheneidio ger ei fron, a darostwng eu gelynion oedd yn eu gorthrymu i gywilydd a dinystr yn ei amser da ei hun. Y mae tystiolaethau y salm yr un mor berthynasol i gyflwr pechaduriaid a saint mewn cyffelyb amgylchiadau yn awr ag oeddynt i’r rhai hyny yn amser Dafydd.

Dewis Presennol:

Salmau 12: SC1875

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda