Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salmau 37

37
SALM XXXVII.
M. H.
Salm Dafydd.
1Byth nac ymddigia er maint eu rhus
Wrth wŷr drygionus ffol eu naws;
Na chenfigena mewn poeth sêl
Wrth rai a wnel anwiredd traws;
2Yn ebrwydd torir hwy i’r llawr,
A gwywa’u gwawr yn wael eu hynt
Fel gwywa y gwyrddlysiau pan
Y’u deifier gan yr awel wynt.
3Yn Nuw o hyd gobeithia di,
A gwna ddaioni heb lwfrhau;
Ac felly trigi yn y tir,
A thi a borthir yn ddiau;
4’Mddigrifa hefyd yn yr Iôr,
Dy galon agor ger ei fron,
A lleinw ef o’i ras didrai
Holl ddymuniadau helaeth hon.
5Treigla dy ffordd ar Dduw trwy ffydd,
A’th lwybrau cudd, fe’u dwg i ben,
6Dwg allan dy gyfiawnder — bydd
Dy farn fel canol dydd di‐len;
7Distawa’n Nuw, a disgwyl di
Am ei oleuni ef a’i ras,
Ac nac ymddigia wrth wŷr gau
Fo’n llwyddo ar lwybrau pechod câs.
8Paid â digofaint — ymaith gâd
Gynddaredd anfad, a phob gŵg;
Ymgadw rhag byrbwylldra llym,
Na ’mddigia er dim i wneuthur drwg;
9Can’s torir ymaith y rhai drwg,
Oll, o dan ŵg y nef cyn hir;
Y rhai ddisgwyliant wrth eu Duw
Hwynthwy gânt fyw, a meddu’r tir.
10Cyn pen ychydig bach o’r tir
Dyfethir yr annuwiol gwael,
Edrychi am ei fangre fo
Ac ni bydd dim o hono i’w gael;
11Y rhai o ostyngedig fryd
Wnant etifeddu ’r byd heb ball,
Cânt mewn tangnefedd lawenhau,
Heb ofni gwae, na phrofi gwall.
Rhan II.
8.7.
12Yr annuwiol ar y cyfiawn
Sydd yn edrych gyda gŵg;
Ysgyrnyga ’i ddannedd arno,
Ac amcana iddo ddrwg;
13Ar ei amcan a’i fwriadau
Chwardd Iehofah yn y nen,
Canys gwel ei ddydd yn dyfod
Pan syrth distryw ar ei ben.
14’R annuwiolion a dynasant
Allan eu cleddyfau mawr,
Annelasant bawb ei fŵa
I saethu a bwrw ’r tlawd i lawr:
15Ond eu cleddyf a drywana
Eu calonau hwy eu hun;
Eu bwäau annelog hwythau
Hefyd ddryllir bob yr un.
16Gwell yw yr ychydig eiddo
Fedd y cyfiawn i’w fwynhau,
Na mawr olud annuwiolion —
Ni wna hwnw ’n hir barhau;
17Canys breichiau ’r annuwiolion
Dorir — syrthiant yn eu gwaed,
Ond yr Arglwydd a gynnalia
Y rhai cyfiawn ar eu traed.
Rhan III.
8.7.
21Yr annuwiol a echwyna,
Ni thâl adref wedi cael;
Ond y cyfiawn sydd drugarog,
Ac yn rhoi â chalon hael;
22Can’s y rhai fendigo ’r Arglwydd
Gânt feddiannu ’r tir mewn hedd;
Ond y rhai felldithir ganddo —
Torir hwynt i lawr i’r bedd.
23Duw yn wastad gyfarwydda
Holl gerddediad y gŵr da,
Da yw ganddo ffordd yr uniawn,
Ei fendithio beunydd wna;
24Er i’r cyfiawn weithiau gwympo
Ar lithrigfa yma a thraw,
Ef i lawr yn llwyr ni fwrir —
Duw a’i cynnal ef â’i law.
Rhan IV.
7.6.
25Myfi a fu’m yn ieuangc,
’Rwy’n awr yn hen o oed;
Y cyfiawn wedi ei adu
Ni welais etto erioed;
Ei had ef yn cardota
Eu bara o dŷ i dŷ
Ni welais chwaith, can’s bendith
Duw yn eu dilyn sy’.
26Bob amser mae ’n drugarog,
Rhydd fenthyg heb nacâd;
Ei had sy’n fendigedig
Yn wastad yn y wlad;
27Gwna dithau ’nol ei siampl,
Ymgilia oddi wrth bob drwg,
Gwna dda, diogel fyddi
Byth rhag pob gwae a gŵg.
28Yr Arglwydd gâr gyfiawnder,
Ni edy ef ei saint:
Fe’u ceidw yn dragywydd,
A mawr a fydd eu braint;
Ond had yr annuwiolion
Ddyfethir yn ddiau,
29A’r cyfiawn etifeddant
Y ddaear, i’w mwynhau.
30O enau ’r cyfiawn llifa
Doethineb uchel werth,
Ei dafod ef a draetha
Wirionedd gyda nerth;
31Can’s deddf ei Dduw yn wastad
Sydd yn ei galon lân,
A’i gamrau ef ni lithrant,
A llawen fydd ei gân.
32’R annuwiol ar y cyfiawn
A wylia, i’w ladd:— 33ni âd
Yr Arglwydd iddo syrthio
I’w amcan dig, a’i frad;
A phan ei barner hefyd
Dieuog fydd, a rhydd —
Daw ei gyfiawnder allan,
I’w wel’d fel canol dydd.
Rhan V.
7.6.
34Gobeithia yn yr Arglwydd
A chadw ffordd ei wir,
Ac ef a wna’th ddyrchafu
I etifeddu’r tir.
Pan tỳner annuwiolion
I lawr i’w distryw sỳn,
O’u rhusedd a’u drygioni
Tydi a weli hyn.
35Mi welais yr annuwiol
Yn rhodio ’i anwir ffyrdd;
Yn gadarn ac yn frigog
Megys y lawryf gwyrdd.
36Er hyny, fe aeth ymaith,
Disymmwth fu ei ffael;
Mi a’i ceisiais, ac nis cefais —
Nid oedd mo hono i’w gael.
37Wel, ystyr di, y perffaith,
Ac edrych arno ’n iawn,
Can’s diwedd y gŵr hwnw
A fydd tangnefedd llawn.
38Troseddwyr a ddinystrir,
Cyd‐dorir hwy ’r un wedd;
A diwedd annuwiolion
A guddir yn y bedd.
39Achubiaeth y rhai cyfiawn
Oddi wrth yr Arglwydd ddaw,
Efe, yn amser trallod,
A’u ceidw hwy ’n ddifraw.
40Fe’u cymmhorth ac a’u gweryd
Rhag annuwiolion câs,
Am iddynt hwy ymddiried
Bob amser yn ei ras.
Nodiadau.
Y mae rhediad a thôn y salm hon yn bur wahanol i’r salmau ereill yn gyffredin. Nid yw y Salmydd yma yn cwyno nac yn canu — yn gweddïo nac yn moliannu; ond yn rhoddi addysg ac athrawiaeth foesol, mewn rhybuddion, cynghorion, ac annogaethau. Gesyd a deil y cyfiawn a’r drygionus y naill ar gyfer y llall o ddechreu y salm hyd y diwedd, gan eu dangos yn eu cyflyrau a’u nodweddau gwahanol yn eu perthynas â Duw ac â’u gilydd, ac â’r byd a’r bywyd hwn, a beth fydd diwedd y ddau. Cynghora ddynion da i ochelyd cenfigenu ac ymddigio pan welont ddynion drygionus ac annuwiol yn esmwyth arnynt ac yn llwyddo yn y byd, pan y maent hwy, y rhai sy’n ofni Duw ac yn cilio oddi wrth ddrygioni, mewn adfyd a thrallodau. Annoga hwynt i feithrin ysbryd amyneddgar i ddisgwyl amser Duw ei hun i dalu i’r drygionus, a gwobrwyo y cyfiawn. Dengys fod cyflwr y cyfiawn — y dyn da — yn y trallodau dyfnaf yn annhraethol mwy dymunol na chyflwr y dyn drygionus pan fyddo fwyaf llwyddiannus ac esmwyth arno, gan y bydd diwedd y cyfiawn yn dangnefedd, a diwedd y drygionus yn ddinystr bythol. Pregeth yw y salm ar bwngc yr ymddyrysodd amryw o ddynion sanctaidd y Beibl uwch ei ben lawer gwaith, a dynion da yn mhob oes, yn gystal a hwythau: ïe, profodd Dafydd ei hun fod yn haws dysgu a chynghori ereill nac arfer yr addysg a’r cynghor ei hun, dan amgylchiadau profedigaethus; canys yr ydym yn ei gael yntau weithiau yn achwyn yn ei drallodion, pan yn gweled dynion drygionus yn esmwyth arnynt.

Dewis Presennol:

Salmau 37: SC1875

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda