Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salmau 44

44
SALM XLIV.
9.8.
I’r Pencerdd, i feibion Corah, Maschil.
1Duw, clywsom â’n clustiau adroddion,
O’th fawrion weithredoedd di gynt,
Ein tadau fynegent yn ffyddlon
’R hyn wnaethost yn nyddiau ’u hoes hwynt;
2Ti yraist â’th law o’u gororau
Genhedloedd Gwlad Canaan i gyd;
Y bobloedd a ddrygaist — a’n tadau
A blenaist, gynnyddaist o hyd.
3Canys nid â’u harfogaeth eu hunain
Y goresgynasant y tir;
Nid cryfder eu braich, ac nid damwain
Ro’es iddynt ymwared yn wir;
Dy gadarn ddeheulaw dragwyddol,
A braich d’ alluowgrwydd digryn,
A llewyrch dy wyneb, Iôr grasol,
Am i ti eu hoffi, wnaeth hyn.
4O Arglwydd! tydi yw fy Mrenin,
Gorchymyn i Iago dy rad,
5Can’s trwot cilgwthiwn y gelyn,
A sathrwn e’ i lawr er ei frad;
Yn Nuw y gwnawn fathru ’n caseion,
Pan godant i’n herbyn mewn llid,
Dy enw ddychryna ’n gelynion,
A syrthiant yn garnedd i gyd.
Rhan II.
M. C. D.
8Yn Nuw ymffrostiwn drwy y dydd,
Clodforwn d’ enw di,
9Ond ti a’n bwriaist ymaith, do,
A gwaradwyddaist ni;
Nid aethost allan gyda’n llu,
10Gwnest i ni droi ein cefn,
Oddi wrth y gelyn, yntau a’n
Hanrheithiodd ni drachefn.
11Fel defaid gwirion rhoddaist ni
I’n bwyta gan y cŵn,
Ac i’n gwasgaru y’mysg yr holl
Genhedloedd mawr eu sŵn;
12Dy bobl heb elw, O ein Duw!
Ar werth y rhoddaist hwy,
Ond nid yw d’ olud di oddi wrth
Eu gwerthiant ddim yn fwy.
13Gosodaist ni ’n waradwydd trwm
I’n cymmydogion dig,
Yn wawd a dirmyg yn barhaus
I bawb o’n hamgylch drig;
14Diareb i’r cenhedloedd y’m,
A rhai i ysgwyd pen
Mewn dirmyg arnynt yn sarhaus
Gan bobloedd îs y nen.
Rhan III.
M. C. D.
15Mae’m gwarthrudd beunydd ger fy mron,
Wyf dan gywilydd tost,
16O herwydd y gwarthruddwr balch,
A’r cablwr mawr ei fost;
17Hyn oll ddaeth arnom, ond nyni
Nid anghofiasom Dduw,
Ni buom yn anffyddlawn chwaith
Yn ei gyfammod gwiw.
18Ni throdd ein calon yn ei hol,
Na’n traed o’th lwybrau cu,
19Er cael ein curo ’n nhrigfa ’r ddraig,
Dan gysgod angeu du;
20Os anghofiasom enw ’n Duw,
Gan droi at dduwiau gau,
21’R hwn ŵyr ddirgeloedd calon dyn,
Ei chwilio allan wnai.
22Yn ddiau, Arglwydd, er dy fwyn
Y’n lleddir ni o hyd,
I’r lladdfa, megys defaid, y’n
Cyfrifir ni i gyd;
23Deffro, paham y cysgi di?
O Arglwydd! cyfod: paid
A’n bwrw ymaith byth o’th ŵydd,
Ymddangos di o’n plaid.
24Pa ham y cuddi ’th wyneb? pa’m
’R anghofi ’n cystudd mawr?
25-26Ein henaid grymwyd hyd y llwch,
Glynasom wrth y llawr;
O! cyfod yn gynnorthwy i’th bobl,
A gwared ni o’n gwae:
Er mwyn dy rad drugaredd sy’n
Dragwyddol yn parhau.
Nodiadau.
Anhawdd, ie, ammhossibl yw penderfynu gan bwy, pa bryd, ac ar ba achlysur y cyfansoddwyd y salm hon; ond y mae yn hawdd penderfyuu mai mewn amser o drallod mawr ar wladwriaeth Israel y cyfansoddodd rhywun hi. Ni bu Israel mewn trallod o’r fath a ddisgrifir yma yn amser Dafydd o gwbl; etto tybia rhai mai Dafydd a’i cyfansoddodd mewn ysbryd prophwydoliaeth am yr erledigaeth a ddioddefai pobl Dduw dan Antiochus Epiphanes, yn nyddiau y Maccabeaid. Barna ereill, gyda mwy o debygolrwydd, feddyliem, mai yn amser y brenin duwiol Hezeciah, pan ddaeth brenin Assyria a’i luoedd fel llifeiriant mawr dros holl wlad Iudah, gan gymmeryd ei holl ddinasoedd cedyrn, a bygwth Ierusalem, ac felly llwyr ddymchwelyd brenhiniaeth tŷ Dafydd. Y mae y salm yn atteb yn dda i’r amgylchiad hwnw, yr hwn oedd yn wahanol i bob trallod cyffelyb a ddaeth ar Israel, y mae hanes am dano; canys yr oedd gwir grefydd yn flodeuog ar y pryd — y brenin a’r bobl yn wresog a ffyddlawn yn ngwasanaeth Duw, ac eilunaddoliaeth wedi ei ddileu o’r wlad. “Er hyny,” medd y Salmydd, “hyn oll a ddaeth arnom” — yr holl adfyd a’r trueni a ddisgrifia efe. Coffhâ y Salmydd am y pethau mawrion a wnaethai Duw i’w tadau gynt, a chwyna yn drwm o herwydd y trallod presennol, a gweddïa yn daer am ymwared; a chyflawnwyd ei ddymuniad yn dra rhagorol y tu hwnt i ddim a feddyliai efe, yn y modd y dinystriwyd holl fyddin Senacherib mewn un noson — os mai perthyn i’r amgylchiad hwnw y mae y salm. Os felly hefyd, mae yn llwyr debygol mai Asaph, y gweledydd, oedd yn gydoeswr â Hezeciah, ac yn un o wŷr ei gynghor, a’i cyfansoddodd, neu ynte Hezeciah ei hun. Yn sicr, nid Esaiah y prophwyd, canys nid yw efe yn ofni ac yn cwyno dim ar yr amgylchiad hwnw, fel y gwna awdwr y salm hon, a Hezeciah yn ei weddi: Esa. xxxvii. Ond yn hytrach herio “y gwarthruddwr a’r cablwr” y mae efe gyda’r watwareg lymaf, a rhagfynegu ei gwymp a’i ddinystr buan.

Dewis Presennol:

Salmau 44: SC1875

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda