Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salmau 48:14

Salmau 48:14 SC1875

Canys Duw y Seion yma Yw ein Duw ni byth i fod, Ef a’n tywys ni hyd angeu, Ninnau draethwn iddo glod: Ni bydd diwedd, & c., Byth ar sain ei foliant ef. NODIADAU. “Cân a salm” y cyfenwir hon; sef cân buddugoliaeth a llawenydd mawr, fe ddichon. Ymddengys yn bur debygol mai ar achlysur llwyr ddymchweliad a dinystr meibion Ammon a Moab, a thrigolion Mynydd Seir, y rhai a ddaethant yn llu mawr i ymosod ar Iehosaphat, y cyfansoddwyd hi, fel y cawn yr hanes yn 2 Cron . xx. Pan oedd Iehosaphat a’i wŷr wedi llwyr ddigaloni yn yr olwg ar gryfder y llu oedd yn dyfod i ymosod arnynt, ac yn troi at eu Duw am ymwared, cafodd y brenin sicrwydd am yr ymwared y gweddïai am dano yn y fan, drwy genadwri oddi wrth Dduw, yn ngenau Lefiad o feibion Asaph, yr hon a sicrhäai iddo na buasai raid iddo ef a’i wŷr wneyd dim ond sefyll yn llonydd, i edrych, a gweled ymwared yr Arglwydd tuag atynt: adn. 14, 17. Ac felly y bu, trodd y fyddin elynol bob un ei arf yn erbyn eu gilydd, nes eu llwyr ddyfetha bob un. Dychwelodd Iehosaphat a’i wŷr i Ierusalem âg ysbail fawr, ac mewn llawenydd mawr, gan foliannu yr Arglwydd, â nablau, a thelynau, ac udgyrn. Felly, tybir i’r salm hon gael ei chyfansoddi ar ol y digwyddiad hynod hwnw, gan un o feibion Corah, ac oedd hefyd yn un o gantorion y deml. Y mae un ymadrodd ar ddiwedd hanes difrod y gelynion hyny, yn mawr attegu y dyb mai salm a gyfansoddwyd ar yr achlysur hwnw ydyw hon; sef, “Ac ofn Duw oedd ar holl deyrnasoedd y ddaear, pan glywsant hwy fel y rhyfelasai yr Arglwydd yn erbyn gelynion Israel;” 2 Cron . xx. 29. Cymmharer y geiriau uchod â’r ymadroddion yn y salm o adn. 1 hyd 6. Y mae y cymmhwysiad o’r disgrifiad bywiog a nerthol a roddir yma o ogoniant, cadernid, diogelwch, a dedwyddwch Ierusalem fel dinas y Brenin Mawr — y ddinas a ddewisasai efe i breswylio ynddi, i’w hamddiffyn, a’i bendithio, a dadguddio ei hun fel Duw iachawdwriaeth ei bobl yn ei arch, a thrwy ordinhadau ei dŷ. Y mae y cymmhwysiad o’r pethau hyn, meddwn, at yr eglwys efengylaidd, dan y Testament Newydd, yn naturiol a phriodol iawn; ac felly y salm‐gân hon, yn un y gall yr eglwys bob amser ei chanu, pa elynion bynag, a pha nifer bynag o elynion fyddont yn ymosod arni. Dinystrio eu hunain, ac nid ei dinystrio hi, a wna ei holl elynion yn y diwedd; felly y gwnaethant bob amser erioed hyd yma, ac felly y gwnant etto, hyd nes syrth yr olaf un o honynt. “Megys y clywsom, felly y gwelsom yn ninas Arglwydd y lluoedd, yn ninas ein Duw ni. Duw a’i sicrhâ hi yn dragywydd;” adn. 8.