Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salmau 49

49
SALM XLIX.
7.6.
I’r Pencerdd, Salm i feibion. Corah.
1Clywch hyn, yr holl genhedloedd!
Gwrandewch, drigolion byd!
2Yn gystal gwreng a bonedd,
Cyfoethog, tlawd, ynghyd;
3Fy ngenau draetha ichwi,
Ddoethineb werthfawr bur,
A myfyrdodau ’m calon
A fydd am ddeall gwir.
4Gostyngaf at ddiareb
Fy nghlust yn astud iawn;
Fy nammeg gyda’r delyn
Ddadguddiaf i chwi ’n llawn;
5Pa ham yn amser adfyd
Yr ofnwn, — byddwn brudd,
Pan amgylchyno anwiredd
Fy sodlau nos a dydd?
Rhan II.
7.6.
6Rhai dynion ymddiriedant
Yn ngolud gwael y byd,
Yn amledd mawr eu cyfoeth,
Ymffrostiant hwy o hyd;
7Ni weryd neb â’i olud
Ei frawd o ddrwg a gwall,
Can’s rhoddi offrwm drosto
Yn iawn i Dduw nis gall.
8Can’s prynedigaeth enaid
Sy’n uchel iawn ei gwerth,
A hyny byth a beidia
Er dyfais dyn a’i nerth;
9Fel byddo byw ’n dragywydd,
Mewn gwynfyd pur a hedd,
Heb ofni awch yr angeu,
Na llygredigaeth bedd.
10Can’s gwel ef fod y doethion
Yn meirw ’r naill a’r llall —
’R un ffunud felly derfydd
Am ynfyd, ffol, a chall;
I ereill y gadawant
O’u hol eu golud maith —
A dyna ddiwedd helynt
Eu holl lafurus waith.
11Eu meddwl yw y pery
Eu tai ’n dragywydd mwy,
O oes i oes na dderfydd
Am eu trigfanau hwy;
Eu tiroedd breision enwant
Hwy ar eu henwau ’u hun,
12Er hyny, mewn anrhydedd
Yn hir nid erys un.
13Eu ffordd i ddiogelu
’U hanrhydedd ar y llawr,
Ac i barhau eu golud
Yw eu hynfydrwydd mawr;
Er hyny eu hiliogaeth
Er gwel’d fod hyny ’n ffol,
Drwy amryfusedd cadarn
Ddilynant ar eu hol.
14Fel defaid y’u gosodir
Yn ’r anweledig fyd,
Ac angeu a’u bugeilia
Hwy fel ei braidd i gyd;
Ac arnynt llywodraetha
’R cyfiawnion foreu ’r farn,
A derfydd am eu tegwch,
I ddifrod ânt yn sarn.
Rhan III.
7.6.
15Ond etto Duw a wared
Fy enaid i o’r bedd,
A byw a gaf i weled,
A llawn fwynhau ei hedd;
Canys efe a’m derbyn
I gyfranogi o’r fraint
A’r gwynfyd a ddarparodd
I’w etholedig saint.
16Nac ofna di gan hyny
Pan gyfoethogo un,
Pan y chwanego mawredd
Gogoniant tŷ y dyn;
17Ni ddwg efe wrth farw
Ddim ymaith yn ei law —
Ei fawredd a’i ogoniant
Ef ar ei ol ni ddaw.
18Er iddo yn ei fywyd
Fendithio ’i hun o hyd,
A chael mawr glod gan ereill,
Tra llwyddodd yn y byd,
19Efe ä at ei dadau
I orwedd gyda hwy,
A byth ni welant lewyrch
O ddim goleuni mwy.
20Dyn druan mewn anrhydedd,
Heb ddeall, ac heb ddawn,
Sydd debyg i’r anifail
Ddiflana ’n ebrwydd iawn;
Clywch hyn, yr holl genhedloedd
Ystyriwch bobloedd byd
Derbyniwch hyn o addysg,
A byddwch ddoeth mewn pryd!
Nodiadau.
Y mae y Salmydd megys yn udganu âg udgorn mawr ar ddechreu y salm hon, i ddeffro a galw yr holl bobloedd, holl drigolion y byd, pob dosbarth o ddynion — gwreng a boneddig, cyfoethog a thlawd — i wrandaw ac ystyried yr addysg bwysig sydd ganddo i’w chyfranu iddynt. Dysga y cyfoethog i beidio ymddiried ac ymffrostio yn ei olud, gan ddangos mor annigonol ac aneffeithiol ydyw i wneyd bywyd dyn yn ddedwydd, nac i estyn a pharhau ei einioes; nas gall bwrcasu anfarwoldeb i’w berchenog, a’i waredu rhag llygredigaeth y bedd, a phan y delo i farw, y bydd yn ei adael oll ar ei ol, ac na all gymmeryd dim o hono ymaith gydag ef. Dysga y tlawd i beidio anfoddloni a grwgnach o herwydd ei fod ef yn amddifad o gyfoeth a golud daearol, gan ddwyn ar gof iddo y bydd y tlawd a’r cyfoethog yn fuan yn gydwastad â’u gilydd yn y bedd. Er fod yr addysg hon yn un bwysig ac angenrheidiol iawn i’w choffau a’i chymmhwyso yn fynych, etto gwirioneddau cyffredin a thra adnabyddus y mae hi yn gynnwys; pan y gallasem ddisgwyl oddi wrth y dull mawreddus a chyffrous y mae y salm yn agor, fel y sylwa un, fod rhyw wirionedd newydd a hollol anghyffredin i gael ei dadguddio, neu ryw eglurhâd felly ar ryw hen wirionedd i gael ei roddi. Ac nid ydym yn cael ein siomi yn y disgwyliad; canys os am sefyllfa ddyfodol o gosp ar y drygionus, ac adgyfodiad a barn, pan y gogoneddir y cyfiawnion, ac y llywodraethant ar yr anwir, y lleferir o adn. 5 hyd adn. 10, fel y sylwa Boothroyd. Yr ydym yn cael rhywbeth a ettyb i’n disgwyliad — ac yn yr olwg hono y mae efe yn cymmeryd y geiriau.
Y mae yr ymadrodd, “fel defaid y gosodir hwynt yn uffern,” yn un o’r rhai anhawddaf ei deall yn yr holl Ysgrythyr, medd Boothroyd. ‘Angeu a’u bugeilia hwynt, ac yn moreu y farn y rhai cyfiawn a lywodraethant arnynt:’ — fel yna y cyfieitha ef y geiriau, a’i gyfieithiad ef a ddilynid yn y mydryddiad, fel y gwel y darllenydd.
Y mae addysg y rhan flaenaf o’r salm o’r un natur a thuedd ag addysg Llyfr y Pregethwr — yn dangos ynfydrwydd y dynion a garant y byd hwn a’i bethau fel y daioni penaf, a wnant gasglu ei gyfoeth a’i drysorau yn brif waith ac amcan eu holl fywyd, ac ydynt felly yn byw fel pe byddent yn golygu byw ac aros ynddo byth, a hwy yn gwybod nad yw bywyd dyn ar y ddaear ond byr iawn ar y goreu, ac yn nghanol profion beunyddiol yn dangos iddynt pa mor ansicr a brau yw yr einioes.

Dewis Presennol:

Salmau 49: SC1875

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda