Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salmau 71

71
SALM LXXI.
M. B. D.
1Gobeithiais ynot ti,
O Arglwydd cu! na chaed
Neb byth fy ngwel’d mewn c’wilydd mawr
Yn myn’d i lawr dan draed;
2O! achub fi, fy Nêr,
Yn dy gyfiawnder mâd;
Gostwng dy glust, a chlyw ’r awr hon
Fy ngweddi, dirion Dad.
3Bydd i mi ’n drigfa glyd
I dd’od iddi o hyd am nawdd,
Gorch’mynaist f’ achub — gelli di
Wneyd hyny ’n ddigon hawdd;
Craig nerth fy enaid gwan —
Tydi dy hunan yw
F’ amddiffyn, a fy ngheidwad da,
Fy noddfa, a fy Nuw.
4Gwared fi, O fy Nuw!
O law yr annuw croes,
5Can’s Duw fy ngobaith wyt o hyd
O’m hie’ngctid drwy fy oes;
6O’r bru, a’r groth, tydi
A’m tynaist i ’n ddinam,
A gwnaethost im’ obeithio ’n glau
Pan o’wn ar fronau ’m mam.
Fy mawl am danat mwy
Gaiff fod tra byddwy’ byw;
7Rhyfeddod oeddwn i i lu,
Fy noddfa fu fy Nuw:
8Llanwer fy ngenau byth
A’th foliant dilyth tau;
9Na fwrw fi o blith dy saint
Yn amser henaint brau.
Rhan II.
M. C.
Na wrthod fi, pan ballo’m nerth,
Fel un diwerth; 10y mae
Gelynion dig fy enaid gwan
Oll am ei wel’d dan wae.
Cydymgynghori maent 11gan ddweyd,
Duw a’i gwrthododd ef;
Erlidiwch, deliwch o! — nid oes
Waredydd glyw ei lef.
12O Dduw! oddi wrthyf na fydd bell,
Prysura i’m cymmhorth:— 13dod
Rhai geisiant f’ enaid dan eu gwarth,
Dyfetha hwy o fod.
14Gobeithiaf finnau ’n wastad, a
Moliannaf di fwy fwy;
15Am ddoniau ’th ras, can’s mi ni wn
Rifedi arnynt hwy.
Rhan III.
8.7.
16Yn nghadernid mawr dy allu,
Arglwydd Dduw y cerdda’i ’n gry’;
Dy ddaioni, dy gyfiawnder
Di yn unig gofiaf fi;
17O’m hieuengctid ti a’m dygaist
Hyd yn hyn o’m dyrus daith,
Traethais innau allan beunydd
Glod dy ryfeddodau maith.
18O! na wrthod mo’nof etto
Dan benllwydni henaint, hyd
Nes mynegwyf dy gadernid
I’r oes hon a’r oesau i gyd;
19Dy gyfiawnder di sydd uchel,
Pethau mawrion yn ddiri’
Wnaethost:— pwy, O Dduw! sy’n debyg
Yn mhob mawredd i tydi?
20Ti, ’r hwn wnaethost imi weled
’R aml a’r blin gystuddiau fu,
A’m bywhei drachefn — cyfodi
Fi o orddyfnder daear ddu;
21Amlhei fy mawredd etto
Megys gynt yr amlhâi
Fy mlinderau, a’m cysuro
I o amgylch ogylch wnai.
22Minnau a’th foliannaf beunydd
Ar offeryn nabl, fy Nuw!
Canaf i ti ar y delyn
Glodydd dy wirionedd gwiw;
23Fy ngwefusau fyddant hyfryd,
Pan ddadganant glod dy ras,
Profa ’m henaid a waredaist
Ar dy foliant beraidd flâs.
24Caiff fy nhafod draethu beunydd
Dy gyfiawnder di a’th rym;
Can’s c’wilyddiwyd a gw’radwyddwyd
Pawb a geisiant niwed im’.
Nodiadau.
Yn un o drallodau ei henaint, naill ai yn amser gwrthryfel Absalom, neu yn union ar ol gostegu hwnw, pan gynnygiodd Seba, mab Bicri, godi gwrthryfel yn ei erbyn, y cyfansoddodd Dafydd y salm hon. Yr oedd efe erbyn hyn wedi “gweled aml a blin gystuddiau, a thrallodion,” fel y dywed; cystuddiau a thrallodion amlach, a blinach, nag a welodd nemawr i ddyn erioed o’i flaen ef, na byth ar ei ol. Cawsai hefyd aml a hynod waredigaethau o’i gystuddiau a’i drallodau; ac o herwydd y naill a’r llall, y trallodau a’r gwaredigaethau, yr oedd efe iddo ei hun, ac i lawer, megys yn rhyfeddod.
Traetha yn nechreu y salm yr hyn a draethasai laweroedd o weithiau o’r blaen, ac nad oedd byth yn blino ar ei draethu; sef, ei obaith a’i ymddiried yn ei Dduw. Yr oedd y profion aml a gawsai efe o ffyddlondeb yr hwn yr ymddiriedasai ynddo bob amser wedi cadarnhau ei hyder ynddo nes oedd ei galon bellach wedi ei hattegu, ac yn ddisigl yn ymddiried yn yr Arglwydd. Y gogoniant mwyaf a allwn ni ei roddi i Dduw ydyw, ymddiried ynddo — yn ei enw, ei air, a’i addewidion. “Yr Arglwydd sydd hoff ganddo y rhai a’i hofnant ef, sef y rhai a obeithiant yn ei drugaredd ef.” Ac nid oes un teimlad yn dwyn y fath dawelwch a chysur i’r meddwl ei hun chwaith.
Gweddïa y Salmydd yma hefyd am yr un peth ag y gweddïasai ugeiniau o weithiau o’r blaen; sef, ar fod i’r Duw yr oedd efe yn wastad yn ymddiried ynddo, ac a’i gwaredasai o bob trallod blaenorol, ei waredu o’r trallod hwn etto, a dyrysu amcanion ei elynion yn ei erbyn; gan seilio dadl ei weddi ar ei ymddiried yn yr Arglwydd o’i ieuengctid, a gwaredigaethau gwastadol yr Arglwydd iddo. Gweddïa hefyd am i’r Arglwydd ofalu am dano, a bod yn dyner wrtho yn awr, pan yr oedd efe wedi cyrhaedd dyddiau henaint a phenllwydni, a chaniatau iddo y ffafr o gael bod yn ddefnyddiol dros ryw dymmor yn mhellach dros ei Dduw — i ddysgu ei ffyrdd, a mynegu ei rinweddau ef i ereill. Cafodd llawer hen Gristion ar ol Dafydd flas a hyfrydwch wrth arfer y deisyfiadau hyn o eiddo y Salmydd drosto ei hun.
Terfyna y salm mewn moliant gwresog. Teimlai y Salmydd fod deisyfiadau ei weddi yn cael eu gwrandaw, ac y cyflawnid hwy iddo; ac erioed ni chyfodasai ei enaid i uwch hwyl wrth foliannu yr Arglwydd nag y gwna yma. Y mae ei ysbryd fel hyn yn “dirf ac yn iraidd yn ei henaint, i fynegu mai uniawn yw yr Arglwydd ei graig, ac nad oes anwiredd ynddo.”

Dewis Presennol:

Salmau 71: SC1875

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda