Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salmau 79:13

Salmau 79:13 SC1875

A ninnau ’th bobl, a defaid Dy borfa, a’th fawrhawn; Moliannwn di ’n dragywydd Yn felus am dy ddawn; Dy foliant a ddadganwn O oes i oes, fel bo I’r cenedlaethau ddeuant I gadw hyn mewn co’. NODIADAU. Rhaid mai wedi goresgyniad a llosgiad Ierusalem a’r deml gan Nebuchodonosor y cyfansoddwyd y salm gwynfanus hon; ac ni chydwedda y disgrifiad a roddir yma o’r anrhaith ar y ddinas a’r cyssegr âg un amgylchiad arall cyn hyny: felly, nid Asaph y pencerdd yn amser Dafydd, nac Asaph y gweledydd yn amser Heseciah, oedd ei hawdwr. Un o feibion y gaethglud oedd yr Asaph hwn; ac, yn llwyr debygol, un o deulu y ddau Asaph blaenorol. Yr oedd chwe chant a deuddeg a deugain o feibion Asaph yn mysg y dychweledigion o Babilon yn amser Ezra a Nehemiah: Neh . vii. 10. Y mae dwy adnod yn y salm, sef y 5ed a’r 6ed, yr un yn un‐air ag Ier . x. 25. Ac oddi yno yn ddiau y cymmerodd yr Asaph hwn y geiriau. Wedi cwyno yn drwm o herwydd adfyd y genedl, ac anrhaith a dinystr y ddinas a’r deml, gweddïa y Salmydd yn daer am i’r Arglwydd ymweled yn ei farn â gelynion ac anrheithwyr ei bobl, ac â hwythau yn ei drugaredd, i’w hadferu a’u cysuro. Appelia yn gyntaf am faddeuant o’u hanwireddau gynt, drwy y rhai y dygasant yr aflwydd arnynt eu hunain. Wedi hyny, am i’r Arglwydd dynu oddi arnynt ei soriant a’i anfoddlonrwydd cyfiawn, y buasent cyhyd o amser danynt, drwy eu hadferu drachefn i’w gwlad a’u rhagorfreintiau. Dadleua am y ffafrau dwyfol hyn ar gyfrif anrhydedd a gogoniant enw Duw, fel eu Duw mewn cyfammod. Ac yn y diwedd, adduneda y buasai iddynt hwy, ei bobl, foliannu Duw yn dragywydd am eu gwrandaw a’u gwaredu — y trosglwyddent goffadwriaeth o’i ras a’i ddaioni iddynt i’r holl genhedlaethau; ac felly y gwnaethant.