Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salmau 81

81
SALM LXXXI.
8au.
I’r Pencerdd ar Gittith, Salm Asaph.
1Llafar genwch i Dduw Iago,
Rhoddwch foliant llawen iddo;
2Moeswch salm, a seiniwch emyn
Ar y dympan fwyn a’r delyn.
3Cenwch udgorn y lloer newydd,
Dydd uchelwyl ein llawenydd;
4Deddf yw hyn i Israel, cofier —
I Dduw Iago, a hen arfer.
5Rhoes hi ’n Ioseph yn dystiolaeth
Yn yr Aipht — tir ei alltudiaeth;
Lle clywn iaith oedd ddyeithr i mi,
Ni ddeallwn ddim o honi.
6Y baich dynais ’ddiar ei ’sgwyddau,
Gadai ’i ddwylaw y crochanau;
7Gelwaist arnaf mewn caledi,
A gwrandewais ar dy weddi.
Do, gwrandewais ar dy riddfan
Yn nirgelwch du y daran;
Profais di wrth ddwfr Meribah,
Lle grwgnachai ’th gynnulleidfa.
Rhan II.
8au.
8Clyw, fy mhobl, a thystiolaethaf:
Israel, os gwrandewi arnaf;
9Na foed ynot ti dduw arall,
Nac ymgryma i ddelw ’n gibddall.
10Myfi ydyw Duw dy dadau
A’th ddug di o’r Aipht, a’i gwaeau;
Lleda ’th safn, a mi a’i llanwaf,
Dy angenion oll ddiwallaf.
11Ond fy mhobl ni wrandawent
Arnaf fi, hwy a’m gwrthodent;
12Minnau a’u gollyngais hwythau
Yn nghyndynrwydd eu calonau.
Wrth eu cynghor gwael eu hunain
Aethant ar gyfeiliorn, druain!
13O! na wnaethent arnaf wrando,
Ac ymroi ’n fy ffyrdd i rodio?
14Buan iawn y gostyngaswn
Eu gelynion, ac y troiswn
I fy llaw i dori ymaith,
Eu caseion oll ar unwaith.
15Holl gaseion Duw a ddaethent,
Ger fy mron ymostyngasent;
A buasai ’u hamser hwythau
Yn dragywydd heb ofidiau.
16Bwydaswn hwy â brasder gwenith,
Dedwydd fuasent dan fy mendith;
Mêl o’r graig dynaswn iddynt,
Ni adawswn eisieu arnynt.
Nodiadau.
Salm i’w chanu ar ddydd nodedig caniad yr udgyrn ydyw hon. Yr oedd hi yn ddefod ac yn ddeddf yn Israel i udganu mewn udgyrn bob mis ar ymddangosiad y lloer newydd, ac yn neillduol ar ymddangosiad y lloer newydd gyntaf yn y flwyddyn. Yr oedd yr udgyrn i gael eu hudganu ar hyd y dydd hwnw o’r boreu hyd yr hwyr; felly, yr oedd yn ddydd o uchelŵyl ganddynt. Os oedd udganu yr udgyrn ar y dydd hwnw wedi ei drefnu er coffadwriaeth am ryw amgylchiad nodedig, nid oes neb yn gallu dyweyd pa amgylchiad ydoedd. Yn goffadwriaeth am waredigaeth Isaac, ac offrymiad yr hwrdd yn ei le ef, medd rhai rabbiniaid Iuddewig. Pwy ond rabbiniaid o Iuddewon fuasai yn meddwl am y fath beth? Yn goffadwriaeth am udganiad yr udgyrn ar Sinai, pan gyhoeddwyd y ddeddf, medd ereill. Ymddengys y dyb hon yn fwy rhesymol na’r llall; ond nid oes un sail ysgrythyrol iddi. Beth bynag, yr oedd yn un o’r deddfau a’r barnedigaethau a roddodd yr Arglwydd i Israel trwy Moses yn Horeb, ac yr oedd iddi ei hamcan a’i phwrpas; ac yn benaf, hwyrach, i alw y bobl ar ddechreu blwyddyn newydd i ystyried a chydnabod daioni Duw tuag atynt y flwyddyn a aethai heibio, i gyflwyno eu mawl a’u diolch iddo am ei ddaioni, ac i ymgyssegru o’r newydd, ar ddechreu blwyddyn arall, i’w wasanaeth, ac ymbarotoi erbyn dydd y cymmod, yr hwn oedd y degfed dydd o’r mis cyntaf.
Crybwyllir yn fyr yn y salm am yr hyn a wnaethai Duw i’w bobl gynt, a’u rhwymedigaethau iddo oddi ar hyny; y drwg o adael Duw, a’r canlyniadau dinystriol o hyny; a diogelwch a dedwyddwch y rhai a lynant yn ffyddlawn yn ei wasanaeth, ac mewn ufudd‐dod i’w orchymynion. Llefarwyd y pethau hyn wrth yr Israel yn gyntaf: “Ond pa beth bynag a ysgrifenwyd o’r blaen, er addysg i ni yr ysgrifenwyd hwynt.” Y mae addysg ac athrawiaeth foesol y salm mor berthynasol i ni ac ydoedd iddynt hwy.

Dewis Presennol:

Salmau 81: SC1875

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda