Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salmau 84

84
SALM LXXXIV.
8.7.4.
I’r Pencerdd ar Gittith, Salm meibion Corah.
1Mor hawddgarol, mor ddymunol,
Arglwydd, yw dy bebyll di;
2Am gynteddau ’m Duw ’r hiraetha
Ac y blysia f’ enaid i:
Gwaedda ’m calon, & c.,
Gwaedda ’m cnawd o hyd am Dduw.
3Hoffi bod o gylch dy babell
Mae aderyn bach y tô,
Cara ’r wennol yno nythu,
I fagu ei chywion yn y fro:
Wrth d’ allorau, & c.,
Di, fy Mrenin a fy Nuw.
4Gwynfydedig yw preswylwyr
Dy sancteiddiaf dŷ, O Dduw!
5Gwyn fyd hwnw sy’ â’i gadernid
Ynot ti, a’i hyder byw:
Yn eu calon, & c.,
Hwy yn wastad mae dy ffyrdd.
Rhan II.
8.7.
6Y rhai ’n myn’d trwy ddyffryn Baca
A’i gwnant ef yn ffynnon lawn,
Gwlaw y nef a leinw ’r llynau,
I’w dïodi ’n hyfryd iawn;
7Ant o nerth i nerth nes cyrhaedd
Oll bob un i Seion wiw,
I ymddangos yno ’n llawen
I addoli ger bron Duw.
8Clyw, O Arglwydd Dduw y lluoedd!
Duw ’n tad Iago, gwrandaw ’n cri,
9Duw ein tarian, gwel, ac edrych
’Ngwyneb dy Eneiniog di;
10Gwell na mil o ddyddiau ydyw
Un dydd yn dy babell glyd,
Hoffwn gadw ’r drws yn hono
Na byw ’n mh’lasau goreu ’r byd.
11Canys haul a tharian ydyw
’R Arglwydd Dduw — efe a rydd
Ras, goleuni, a gogoniant,
Nerth a dawn yn ol y dydd;
Ni attalia ddim daioni
A fo ’n eisieu dan y nef,
Ar y sawl a rodio ’n uniawn,
12Gan ymddiried ynddo ef.
Nodiadau.
Salm i feibion Corah, o’r rhai yr oedd lliaws yn gantorion y cyssegr yn amser Dafydd, ac fe allai wedi ei chyfansoddi gan un o’r teulu hwnw, ydyw hon: a hyny pan yr oedd byddin Senacherib, y mae yn debygol, wedi cau rhwng Ierusalem a holl ddinasoedd Iudah, fel nad allai y Lefiaid a’r bobl o’r dinasoedd hyny fyned i fyny i Ierusalem i addoli ar y gŵyliau. Teimlai y Lefiad hwn yn gyffelyb fel y teimlai Dafydd, pan oedd efe wedi ei ymlid o Ierusalem yn amser gwrthryfel Absalom; a chwyna, mewn cyffelyb ymadroddion, fod ei enaid yn hiraethu ac yn blysio am gynteddau yr Arglwydd, a theimla megys eiddigedd at yr aderyn tô a’r wennol, a ymlechent ac a nythent o amgylch pabell ac allor Duw, heb i neb eu tarfu, tra yr oedd efe a’r ffyddloniaid yn y wlad a’r dinasoedd yn cael eu cadw draw gan y gelyn, fel nas gallent fyned i dŷ ac at allorau eu Duw. Gweddïa y Salmydd yn daer am adferiad y breintiau a werthfawrogid mor fawr ganddo. Hoffasai efe, meddai, un diwrnod yn nghynteddau ei Dduw yn fwy na mil yn mhebyll y byd, a chadw y drws yn ei dŷ ef yn fwy na thrigo yn mhalasau annuwioldeb: ac felly y teimla ac y profa pob gwir gredadyn. Y mae syniadau, dadganiadau, a deisyfiadau y salm hon yn iaith a lleferydd teimlad pob enaid profiadol o’r nerth a’r hyfrydwch ysbrydol a fwynheir yn nhŷ ac ordinhadau Duw. Y mae etto filoedd yn ein gwlad, ac o’n cenedl ein hunain, a allant ddywedyd mor ddiffuant ag y dywed y Salmydd yma, “Gwell yw diwrnod yn dy gynteddau di na mil,” ac “y dewisent gadw drws yn nhŷ eu Duw o flaen trigo yn mhebyll annuwioldeb.”
Y rheswm a rydd y Salmydd dros ei ddewisiad o drigo yn nhŷ yr Arglwydd o flaen pebyll annuwioldeb yw yr hyn ydyw Duw i’w bobl yn y dadguddiad a rydd efe o hono ei hun iddynt yn ei dŷ:— “haul a tharian,” “goleuni a diogelwch,” a’r hyn a weinydda efe iddynt drwy ordinhadau ei dŷ — “gras a gogoniant.” Yr oedd gwleddoedd breision, a difyrwch y gwin, a’r delyn, a’r ddawns i’w cael yn mhebyll annuwioldeb — pob cyflawnder o dda y byd hwn; ond nid yw Duw i’w fwynhau fel haul a tharian, yn ei heddwch a’i nawdd, yn y pebyll hyny, ond yn ei babell ef ei hun. Os eir i ymofyn gras a gogoniant, rhoddion goreu a phenaf Duw, yn ei dŷ ef, ac nid yn mhalasau annuwioldeb, y maent i’w cael; canys yno y rhwymodd yr Arglwydd y fendith, sef bywyd yn dragywydd. Am balasau annuwioldeb, dywed Esaiah (pen. v. 12) — “Ac yn eu gwleddoedd hwynt y mae y delyn, a’r nabl, y dympan, a’r bibell, a’r gwin: ond am waith yr Arglwydd nid edrychant, a gweithred ei ddwylaw ef nid ystyriant.” Hoffant ddefnyddio a mwynhau trugareddau Duw yn ei ragluniaeth yn eu palasau — ond cauant Dduw ei hun allan o’u calonau.

Dewis Presennol:

Salmau 84: SC1875

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda