Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gweithredoedd 1:1-12

Gweithredoedd 1:1-12 CJW

YR adroddawd cyntaf á gyfansoddais, O Theophilus, am yr holl bethau à ddechreuodd Iesu eu gwneuthur a’u dysgu, hyd y dydd y cymerwyd ef i fyny, gwedi iddo, drwy yr Ysbryd Glan, roddi gorchymmyn i’r Apostolion à etholasai. I’r rhai hefyd yr ymddangosodd efe yn fyw àr ol ei ddyoddefiadau, drwy lawer o brofion anffaeledig; gàn fod yn weledig iddynt dros ddeugain niwrnod, a llefaru am y pethau à berthynent i deyrnas Duw. A gwedi eu cynnull hwynt yn nghyd, efe á orchymmynodd iddynt nad ymadawent o Gaersalem, eithr dysgwyl am addewid y Tad, yr hon, ebai efe, á glywsoch chwi gènyf fi. Oblegid Iöan, yn wir, á drochai mewn dwfr, ond chwi á drochir yn yr Ysbryd Glan, cyn nemawr o ddyddiau. Hwythau, gàn hyny, gwedi ymgynnull yn nghyd, á ofynasant iddo, gan ddywedyd, Arglwydd, ai y pryd hwn yr adferi di y freniniaeth i Israel? Ond efe á ddywedodd wrthynt, Ni pherthyn i chwi wybod yr amseroedd na’r prydiau, y rhai á gadwodd y Tad iddo ei hun. Ond chwi á dderbyniwch nerth, drwy i’r Ysbryd Glan ddyfod arnoch, ac á fyddwch dystion i mi yn Nghaersalem, ac yn holl Iuwdëa, ac yn Samaria, a hyd eithaf y ddaiar. A gwedi iddo ddywedyd y pethau hyn, a hwynthwy yn edrych, efe á ddyrchafwyd i fyny, a chwmwl á’i derbyniodd ef allan o’u golwg hwynt. A fel yr oeddynt yn edrych yn ddyfal tua ’r nef, ac efe yn myned i fyny, wele dau wr á safasant gèrllaw iddynt mewn gwisg wèn; y rhai hefyd á ddywedasant, Alileaid, paham y sefwch yn edrych tua ’r nef? Yr Iesu hwn, à gymerwyd i fyny oddwrthych i’r nef, á ddaw hefyd, yn yr un modd ag y gwelsoch ef yn myned i’r nef. Yna y dychwelasant i Gaersalem, o’r mynydd à elwir Oleẅwydd, yr hwn sydd o Gaersalem daith diwrnod Seibiaeth.