Yn hyn y gogoneddir fy Nhad, drwy ddwyn o honoch ffrwyth lawer: felly y byddwch ddysgyblion i mi. Fel y mai y Tad yn fy ngharu i, felly yr wyf finnau yn eich caru chwithau: aroswch yu fy nghariad i. Os cedẅwch fy ngorchymynion, chwi á aroswch yn fy nghariad; fel y cedwais i orchymynion fy Nhad, ac yr wyf yn aros yn ei gariad ef. Y rhybyddion hyn yr wyf yn eu rhoddi i chwi, fel y parâwyf i gael llawenydd ynoch, ac y byddai eich llawenydd chwithau yn gyflawn. Dyma fy ngorchymyn i, bod i chwi garu eich gilydd, fel yr wyf fi yn eich caru chwi. Cariad mwy na hwn nid oes gàn neb, bod i un roi ei einioes dros ei gyfeillion. Chychwi yw fy nghyfeillion, os gwnewch pa bethau bynag yr wyf yn eu gorchymyn i chwi. O hyn allan, nid wyf yn eich galw yn weision; oblegid y gwas nis gwyr beth á wna ei feistr; ond yr wyf fi yn eich galw chwi yn gyfeillion; oblegid beth bynag á ddysgais gàn fy Nhad, yr wyf yn ei hysbysu i chwi. Nid chwi á’m dewisasoch i; ond myfi á’ch dewisais chwi, ac á’ch gosodais chwi, fel yr elech ac y dygech ffrwyth; ffrwyth à fydd yn arosol, fel y rhoddo y Tad i chwi pa beth bynag à ofynoch iddo yn fy enw i.
Darllen Ioan 15
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Ioan 15:8-16
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos