Ioan 3
3
1-21Ac yr oedd Pharisëad, a’i enw Nicodemus, pènaeth i’r Iuddewon, yr hwn á ddaeth at Iesu liw nos, ac á ddywedodd wrtho, Rabbi, nyni á wyddom mai dysgawdwr ydwyt ti gwedi dyfod oddwrth Dduw; canys ni allai neb wneuthur y gwyrthiau hyn yr wyt ti yn eu gwneuthur, oni bai bod Duw gydag ef. Iesu gàn ateb, á ddywedodd wrtho, Mewn gwirionedd, yr wyf yn dywedyd i ti, oddieithr geni dyn drachefn, ni ddichon efe ddirnad Teyrnasiad Duw. Nicodemus á atebodd, Pa fodd y dichon dyn wedi tyfu i fyny gael ei eni? A ddichon efe fyned i groth ei fam eilwaith, a’i eni? Iesu á atebodd, Mewn gwirionedd, yr wyf yn dywedyd i ti, oddieithr geni dyn o ddwfr ac Ysbryd, ni ddichon efe fyned i fewn i deyrnas Duw. Yr hyn à aned o’r cnawd sy gnawd; yr hyn à aned o’r Ysbryd sydd ysbryd Na ryfedda, gàn hyny, ddywedyd o honof fi wrthyt, Y mae yn raid eich geni chwi drachefn. Y mae yr Ysbryd yn anadlu lle y mỳno, a thi á glywi y son am dano, ond ni wyddost o ba le y mae yn dyfod, nac i ba le y mae yn myned; felly y mae pob un à aned o’r Ysbryd. Nicodemus á atebodd, Pa fodd y gall y pethau hyn fod? Iesu á adatebodd, A wyt ti yn ddysgawdwr Israel, a heb wybod y pethau hyn? Mewn gwirionedd, yr wyf yn dywedyd i ti, Mai yr hyn à wyddom yr ydym yn ei lefaru, a’r hyn à welsom yr ydym yn ei dystiolaethu; èr hyny ein tystiolaeth ni nid ydych yn ei derbyn. Os nad oeddych yn dëall pán ddywedais i chwi bethau daiarol, pa fodd, pàn ddywedwyf i chwi bethau nefol, y deallwch? Canys nid esgynodd neb i’r nef, oddieithr yr hwn á ddisgynodd o’r nef; Mab y Dyn yr hwn sydd a’i drigfa yn y nef. Megys y gosododd Moses yn uchel y sarff yn y diffeithwch, felly y mae yn raid i Fab y Dyn gael ei osod yn uchel; fel na choller pwybynag á gredo ynddo ef, ond caffael o hono fywyd tragwyddol; canys felly y carodd Duw y byd, fel y rhoddodd efe ei uniganedig Fab, fel na choller pwybynag á gredo ynddo ef, ond caffael o hono fywyd tragwyddol. Oblegid Duw á ddanfonodd ei Fab i’r byd, nid i gollfarnu y byd, ond fel yr achubid y byd drwyddo ef. Yr hwn sydd yn credu ynddo ef, ni chollfernir; yr hwn nid yw yn credu á gollfarnwyd èisioes, am na chredodd yn enw uniganedig Fab Duw. A dyma sail y golledigaeth, ddyfod goleuni i’r byd, a dewis o ddynion y tywyllwch o flaen y goleuni, am fod eu gweithredoedd hwy yn ddrwg. Canys pwybynag sydd yn gwneuthur drwg sydd yn casâu y goleuni, ac yn ciliaw oddwrtho, fel nas dadguddier ei weithredoedd ef. Ond yr hwn sydd yn ufyddâu i’r gwirionedd, sydd yn dyfod i’r goleuni, fel y byddo yn amlwg bod ei weithredoedd ef yn rhyngu bodd Duw.
22-24Gwedi hyn, Iesu á aeth gyda’i ddysgyblion i diriogaeth Iuwdea, lle yr arosodd efe gyda hwynt, ac á drochodd. Yr oedd Ioan hefyd yn trochi yn Ainon, yn agos i Salim, canys dyfroedd lawer oedd yno; a phobl á ddaethant yno, ac á drochwyd. Canys ni fwriasid Ioan eto yn ngharchar.
25-36A bu dadl rhwng dysgyblion Ioan ag Iuddew yn nghylch puredigaeth. Yna yr aethant at Ioan, ac á ddywedasant wrtho, Rabbi, yr hwn oedd gyda thi gèr yr Iorddonen, i’r hwn y rhoddaist y fath air da; y mae yntau hefyd yn trochi, a’r bobl yn ymdỳru ato. Ioan á atebodd, Ni ddichon dyn gaffael dim awdurdod ond à rodder iddo o’r nef. Chychwi eich hunain ydych dystion i mi, ddarfod i mi ddywedyd, Nid myfi yw y Messia, ond wedi fy anfon yr ydwyf o’i flaen ef. Yr hwn sy ganddo y briodferch yw y priodfab; ond cyfaill y priodfab, yr hwn sydd yn ei gynnorthwyo ef, sydd yn llawenychu oblegid clywed llais y priodfab; hwn, fy llawenydd i, gàn hyny, sy gyflawn. Rhaid ydyw iddo ef gynnyddu, tra byddwyf finnau yn lleiâu. Yr hwn sydd yn dyfod oddiuchod, sy goruwch pawb. Yr hwn sydd o’r ddaiar sy ddaiarol, a fel un à fai o’r ddaiar y mae yn llefaru. Yr hwn sydd yn dyfod o’r nef, sy goruwch pawb. Yr hyn y mae efe yn ei dystiolaethu, yw yr hyn à welodd ac á glywodd efe; èr hyny ei dystiolaeth ef nid ydys yn ei derbyn. Yr hwn sydd yn derbyn ei dystiolaeth ef, sydd yn ardystio geirwiredd Duw. Canys yr hwn á gènadwriaethodd Duw, sydd yn mynegi geiriau Duw ei hun; oblegid nid wrth fesur y mae Duw yn rhoddi iddo ef yr Ysbryd. Y mae y Tad yn caru y Mab, a gwedi darostwng pob peth iddo ef. Yr hwn sydd yn credu yn y Mab, y mae ganddo fywyd tragwyddol; yr hwn sydd yn gwrthod y Mab, ni wel fywyd; eithr y mae dialedd Duw yn ei aros ef.
Dewis Presennol:
Ioan 3: CJW
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Yr Oraclau Bywiol gan John Williams 1842. Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2021.

: