Yn y cyfamser, y dysgyblion gàn ddeisyfu arno, á ddywedasant, Rabbi, bwyta. Yntau á atebodd, Y mae genyf fi fwyd iddei fwyta, yr hwn ni wyddoch chwi am dano. Yna ei ddysgyblion ef á ddywedasant wrth eu gilydd, A ddaeth rhywun a bwyd iddo? Iesu á atebodd, Fy mwyd i yw gwneuthur ewyllys yr hwn a’m hanfonodd, a gorphen ei waith ef. Onid ydych chwi yn dywedyd, Wedi pedwar mis y daw y cynauaf? Ond yr wyf fi yn dywedyd, Dyrchefwch eich llygaid, ac edrychwch àr y meusydd; canys y maent eisioes yn ddigon gwynion i’r cynauaf. Y medelwr sydd yn derbyn cyflog, ac yn casglu y ffrwyth èr bywyd tragwyddol, fel y gallo yr heuwr a’r medelwr lawenychu yn nghyd. Canys yn hyn y gwireddir y ddiareb, Y naill sydd yn hau, a’r llall sydd yn medi. Myfi á’ch anfonais chwi i fedi yr hyn ni lafuriasoch: ereill á lafuriasant, a chwithau ydych yn cael meddiant o’u llafur hwynt.
Darllen Ioan 4
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Ioan 4:31-38
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos