Iesu drachefn á gyfarchodd y bobl, gàn ddywedyd, Goleuni y byd ydwyf fi: y neb sydd yn fy nylyn i, ni rodia mewn tywyllwch, ond á gaiff oleuni y bywyd. Y Phariseaid, gàn hyny, á wrthatebasant, Yr wyt ti yn tystiolaethu am danat dy hun; nid yw dy dystiolaeth di yn haeddu ei chredu. Iesu á atebodd, Er fy mod i yn tystiolaethu am danaf fy hun, y mae fy nhystiolaeth i yn haeddu ei chredu; oblegid mi á wn o ba le y daethym, ac i ba le yr wyf yn myned. Am danoch chwi, nis gwyddoch o ba le yr wyf fi yn dyfod, nac i ba le yr wyf fi yn myned. Yr ydych chwi yn barnu oddiar nwyd, nid wyf fi yn barnu neb: ac os wyf fi yn gwneyd, y mae fy marn i yn haeddu ei chredu; oblegid nid wyf fi yn unig, ond yn cydsynied â’r Tad, yr hwn á’m hanfonodd i. Y mae yn arwireb yn eich cyfraith chwi, bod tystiolaeth gydunol dau yn gredadwy. Yr wyf fi yn un sydd yn tystiolaethu am danaf fy hun; y Tad yr hwn á’m hanfonodd i sydd un arall yn tystiolaethu am danaf fi. Yna hwy á ofynasant iddo, Pa le y mae dy Dad di? Iesu á atebodd, Nid adwaenoch na myfi na’m Tad; ped adnabuasech fi, chwi á adnabuasech fy Nhad hefyd. Y pethau hyn á lefarodd efe yn y trysordy, wrth athrawiaethu yn y deml: a ni ddaliodd neb ef, am na ddaethai ei awr ef eto.
Darllen Ioan 8
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Ioan 8:12-20
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos