Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ioan 8:21-32

Ioan 8:21-32 CJW

Iesu á ddywedodd wrthynt drachefn, Yr wyf fi yn myned ymaith; chwi á ’m ceisiwch i, ac á fyddwch feirw yn eich pechodau; lle yr wyf fi yn myned, ni ellwch chwi ddyfod. Yna yr Iuddewon á ddywedasant, A ladd efe ei hun, gàn ei fod yn dywedyd, Lle yr wyf fi yn myned, ni ellwch chwi ddyfod? Efe á ddywedodd wrthynt, Chychwi ydych oddi isod; minnau wyf oddi uchod. Chychwi ydych o’r byd hwn; minnau nid wyf o’r byd hwn; am hyny y dywedais, Chwi á fyddwch feirw yn eich pechodau; oblegid oni chredwch chwi mai myfi yw efe, chwi á fyddwch feirw yn eich pechodau. Yna hwy á ofynasant iddo, Pwy wyt ti? Iesu á atebodd, Yr un un ag y dywedais i wrthych gynt. Y mae genyf fi lawer o bethau iddeu dywedyd am danoch, ac iddeu ceryddu ynoch chwi; eithr gwiwgred yw yr hwn à’m hanfonodd i; a nid wyf fi ond cyhoeddi i’r byd y pethau à ddysgais ganddo ef. Ni chanfuant hwy mai y Tad á feddyliai efe. Iesu, gàn hyny, á ddywedodd wrthynt, Pan godoch chwi Fab y Dyn yn uchel, yna y cewch wybod beth ydwyf fi; a nad wyf fi yn gwneuthur dim o honof fy hun, nac yn dywedyd dim ond à ddysgodd y Tad i mi. A’r hwn à’m hanfonodd i sy gyda myfi. Ni adawodd y Tad fi yn unig, oblegid yr wyf fi yn gwneuthur bob amser y pethau sydd yn rhyngu ei fodd ef. Tra yr ydoedd efe yn llefaru fel hyn, llawer á gredasant ynddo ef. Yna y dywedodd Iesu wrth yr Iuddewon hyny à’i credasant ef, Os parêwch yn fy nysgeidiaeth i, dysgyblion i mi ydych yn wir. A chwi á gewch wybod y gwirionedd; a’r gwirionedd á’ch rhyddâa chwi.