Yn gynnar yn y bore, efe á ddychwelodd i’r deml, a gwedi i’r holl bobl ddyfod ato, efe á eisteddodd ac á’u dysgodd hwynt. Yna yr ysgrifenyddion a’r Phariseaid á ddygasant ato ef wraig yr hon á ddaliesid mewn godineb; a gwedi ei gosod hi yn y canol, á ddywedasant wrtho, Rabbi, y wraig hon á ddaliwyd àr y weithred yn godinebu. A Moses, yn y gyfraith, á orchymynodd fod i’r cyfryw gael eu llabyddio; a pha beth yr wyt ti yn ei ddywedyd? Hyn á ddywedasant hwy iddei brofi ef, fel y gallent gael achos iddei gyhuddo ef. Ond Iesu gwedi ymgrymu tua’r llawr, oedd yn ysgrifenu â’i fys àr y ddaiar. Fel yr oeddynt hwy yn parâu yn gofyn iddo, efe á ymuniawnodd, ac á ddywedodd wrthynt, Yr hwn sy ddibechod o honoch, tafled y gàreg gyntaf ati hi. Gwedi iddo eilwaith ymgrymu tua’r llawr, efe á ysgrifenodd àr y ddaiar. Hwythau gwedi clywed hyny, á aethant allan o un i un, y rhai hynaf, yn gyntaf, hyd oni adawyd Iesu yn unig, a’r wraig yn sefyll yn y canol. Iesu, gwedi ymuniawni, a heb weled neb ond y wraig, á ddywedodd wrthi, Wraig, pa le y mae dy gyhuddwyr hyny? A ddarfu i neb roddi collfarn arnat? Hithau á atebodd, Naddo neb, sỳr. Iesu á ddywedodd wrthi, Nid wyf finnau chwaith yn rhoddi collfarn arnat. Dos, a na phecha mwyach.