Fel yr oedd Iesu yn myned rhagddo, efe á welai ddyn à anesid yn ddall. A’i ddysgyblion á ofynasant iddo, gàn ddywedyd, Rabbi, pwy á bechodd; ai hwn, ai ei rieni, fel y genid ef yn ddall? Iesu á atebodd, Nid hwn á bechodd, na’i rieni chwaith. Ond hyn á fu fel yr arddangosid gweithredoedd Duw arno ef. Rhaid i mi wneuthur gwaith yr hwn á’m hanfonodd, tra yr ydyw hi yn ddydd; y mae y nos yn dyfod, pan na ddichon neb weithio. Tra yr ydwyf yn y byd, goleuni y byd ydwyf. Wedi iddo ddywedyd hyn, efe á boerodd àr lawr, ac â’r clai à wnaethai efe o’r poeryn, efe á irodd lygaid y dall, ac á ddywedodd wrtho, Dos, golch dy lygaid yn llyn Siloam, (yr hwn á arwyddocâa Anfonedig.) Efe á aeth, gàn hyny, ac á’u golchodd hwynt, ac á ddychwelodd yn gweled.
Darllen Ioan 9
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Ioan 9:1-7
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos