Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ioan 9

9
DOSBARTH VII.
Iachâu y Dyn à anesid yn Ddall.
1-7Fel yr oedd Iesu yn myned rhagddo, efe á welai ddyn à anesid yn ddall. A’i ddysgyblion á ofynasant iddo, gàn ddywedyd, Rabbi, pwy á bechodd; ai hwn, ai ei rieni, fel y genid ef yn ddall? Iesu á atebodd, Nid hwn á bechodd, na’i rieni chwaith. Ond hyn á fu fel yr arddangosid gweithredoedd Duw arno ef. Rhaid i mi wneuthur gwaith yr hwn á’m hanfonodd, tra yr ydyw hi yn ddydd; y mae y nos yn dyfod, pan na ddichon neb weithio. Tra yr ydwyf yn y byd, goleuni y byd ydwyf. Wedi iddo ddywedyd hyn, efe á boerodd àr lawr, ac â’r clai à wnaethai efe o’r poeryn, efe á irodd lygaid y dall, ac á ddywedodd wrtho, Dos, golch dy lygaid yn llyn Siloam, (yr hwn á arwyddocâa Anfonedig.) Efe á aeth, gàn hyny, ac á’u golchodd hwynt, ac á ddychwelodd yn gweled.
8-12Yna y cymydogion, a’r rhai à’i gwelsent ef o’r blaen yn ddall, á ddywedasant, Onid hwn yw yr un oedd yn eistedd, ac yn cardota? Rhai á ddywedasant, Hwn yw efe; ereill, Y mae efe yn debyg iddo. Yntau á ddywedodd, Myfi yw efe. Hwy á ofynasant iddo, gàn hyny, Pa fodd y cefaist ti dy olwg? Yntau á atebodd, Dyn à elwir Iesu, á wnaeth glai ac á irodd fy llygaid i, ac á ddywedodd wrthyf, Dos i lyn Siloam, a golch dy lygaid. Minnau á aethym, ac á’u golchais hwynt, a chefais fy ngolwg. Yna y gofynasant iddo, Pa le y mae efe? Yntau á atebodd, Nis gwn i.
13-17Yna hwy á ddygasant yr hwn á fuasai yn ddall at y Phariseaid: (ac àr Seibiaeth y gwnaeth Iesu glai, ac y rhoddes iddo ei olwg.) Y Phariseaid yr un modd, gàn hyny, á ofynasant iddo pa fodd y cawsai efe ei olwg. Yntau á atebodd, Clai á ddodes efe àr fy llygaid i, a myfi á’u golchais hwynt, ac yr wyf yn awr yn gweled. Ar hyn, rhai o’r Phariseaid á ddywedasant, Nid yw y dyn hwn o Dduw, oblegid nid yw efe yn cadw y Seibiaeth. Ereill á ddywedasant, Pa fodd y gall un sydd yn bechadur wneuthur y fath wyrthiau? Ac yr oedd ymraniad yn eu plith. Hwy á ofynasant drachefn i’r hwn à fuasai yn ddall, Beth yr wyt ti yn ei ddywedyd am dano ef, am roddi golwg i ti? Yntau á atebodd, Proffwyd yw efe.
18-23Ond ni chredai yr Iuddewon mai dall fuasai y dyn, a chael o hono ef ei olwg, nes galw o honynt ei rieni ef, a gofyn iddynt, A ydych chwi yn dywedyd mai hwn yw eich mab chwi, yr hwn á aned yn ddall? Pa fodd gàn hyny, y mae efe yn gweled yn awr? Ei rieni ef á atebasant, Nyni á wyddom mai hwn yw ein mab ni, a mai yn ddall y ganwyd ef; ond pa fodd y mae efe yn gweled yn awr, neu pwy á agorodd ei lygaid ef, nis gwyddom ni. Y mae efe mewn oedran, gofynwch iddo ef; efe á etyb drosto ei hun. Ei rieni ef á ddywedasant fel hyn, am eu bod yn ofni yr Iuddewon; oblegid yr Iuddewon á benderfynasent eisioes, fod i bwybynag á gyfaddefai Iesu yn Fessia, gael ei fwrw allan o’r gynnullfa. O herwydd hyny y dywedodd ei rieni ef, Y mae efe mewn oedran, gofynwch iddo ef.
24-34Am hyny, hwy á alwasant eilwaith y dyn à anesid yn ddall, ac á ddywedasant wrtho, Dyro ogoniant i Dduw; nyni á wyddom mai pechadur yw y dyn hwn. Yntau á atebodd, Ai pechadur yw, nis gwn i: un peth á wn i, lle yr oeddwn i yn ddall, fy mod i yn awr yn gweled. Hwythau á ddywedasant wrtho drachefn, Beth á wnaeth efe i ti? Pa fodd y gwnaeth efe i ti weled? Yntau á atebodd, Mi á ddywedais i chwi o’r blaen; á glywsoch chwi ddim? Paham yr ydych yn ewyllysio clywed drachefn? A ydych chwithau, hefyd, yn ewyllysio bod yn ddysgyblion iddo ef? Hwythau á’i difenwasant ef, ac á ddywedasant, Tydi sy ddysgybl i hwnw. Am danom ni, dysgyblion i Foses ydym ni. Nyni á wyddom lefaru o Dduw wrth Foses; am hwn, nis gwyddom ni o ba le y mae efe. Y dyn á atebodd, Y mae hyn yn rhyfedd, na wyddoch chwi o ba le y mae efe, ac yntau gwedi rhoddi i mi fy ngolwg. Nyni á wyddom nad yw Duw yn gwrandaw pechaduriaid; ond os yw neb yn addoli Duw, ac yn ufyddâu iddo, hwnw y mae efe yn ei wrandaw. Ni chlybuwyd erioed o’r blaen roddi o neb olwg i un à anesid yn ddall. Oni bai fod hwn o Dduw, ni allai efe wneuthur dim. Hwythau á adatebasant, Mewn pechodau y ganwyd ti oll, ac á wyt ti yn ein dysgu ni? A hwy á’i bwriasant ef allan.
35-41Clybu Iesu ddarfod iddynt ei fwrw ef allan, a gwedi iddo gyfarfod ag ef, efe á ddywedodd wrtho, A wyt ti yn credu yn Mab Duw? Yntau á atebodd, Pwy yw efe, Sỳr, fel y credwyf ynddo? Iesu á ddywedodd wrtho, Nid yn unig ti á’i gwelaist ef; ond efe yw yr hwn sydd yn ymddyddan â thi. Yntau á lefodd, O Feistr, yr wyf yn credu; ac à ymgrymodd o’i flaen ef. A dywedodd Iesu, Er barn y daethym i i’r byd hwn, fel y gwelai y rhai nid ydynt yn gweled; ac yr elai y rhai sydd yn gweled, yn ddeillion. Rhai o’r Phariseaid à oedd yn bresennol, wedi clywed hyn, á ddywedasant wrtho, A ydym ninnau hefyd yn ddeillion? Iesu á atebodd, Pe deillion fyddech, ni byddai arnoch bechod: ond meddwch chwi, Yr ydym ni yn gweled; am hyny y mae eich pechod yn aros.

Dewis Presennol:

Ioan 9: CJW

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda