Buasai ymryson hefyd yn eu plith, pwy o honynt á gyfrifid y mwyaf. Ac efe á ddywedodd wrthynt, Y mae breninoedd y cenedloedd yn arglwyddiaethu arnynt; a’r rhai à’u gorthrymant, á elwir yn gymwynaswyr. Ond nid felly y bydd gyda chwi; eithr y mwyaf yn eich plith chwi, bydded fel y lleiaf; a’r hwn sydd yn llywodraethu fel yr hwn sydd yn gwasanaethu. Canys pa un fwy, ai yr hwn sydd wrth y bwrdd, ai yr hwn sydd yn gwasanaethu? Onid yr hwn sydd wrth y bwrdd? Eto yr ydwyf fi yn eich mysg fel un yn gwasanaethu. Chychwi yw y rhai à arosasoch gyda mi yn fy mhrofedigaethau. Ac yr wyf yn trefnu i chwi fwyta ac yfed wrth fy mwrdd yn fy nheyrnas, (megys y trefnodd fy Nhad i mi deyrnas), ac eistedd àr orseddau, yn barnu deg a dau lwyth Israel.
Darllen Luwc 22
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Luwc 22:24-30
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos