Ac Iesu yn llawn o’r Ysbryd Glan, á ddychwelodd oddwrth yr Iorddonen, ac á arweiniwyd gan yr Ysbryd i’r anialwch, lle y bu efe ddeugain niwrnod, ac á demtid gàn y diafol. Ac efe heb fwyta dim drwy yr holl amser hwnw, gwedi ei ddiweddu yr oedd arno chwant bwyd; a dywedodd y diafol wrtho, Os Mab Duw wyt ti, gorchymyn i’r gàreg hon fod yn fara. Iesu á’i hatebodd ef, gan ddywedyd, Ysgrifenedig yw, “Nid àr fara yn unig y mae dyn yn byw, ond àr bethbynag á welo Duw yn dda.” Yna y diafol, wedi ei gymeryd ef i ben mynydd uchel, á ddangosodd iddo holl deyrnasoedd y ddaiar mewn mynyd awr, ac á ddywedodd wrtho, Yr holl awdurdod a’r gogoniant hwn á roddaf i ti, canys i mi ei traddodwyd, ac i bwybynag y mỳnwyf y rhoddaf finnau ef; os tydi, gàn hyny, a’m haddoli i, eiddot ti fydd y cwbl. Iesu gan ateb, á ddywedodd, Ysgrifenedig yw, “Yr Arglwydd dy Dduw á addoli, ac ef yn unig á wasanaethi.” Yna efe á’i dyg ef i Gaersalem, a gwedi ei osod ef àr furganllaw y deml, á ddywedodd wrtho, Os Mab Duw wyt ti, bwrw dy hun i lawr oddyma; canys ysgrifenedig yw, “Efe á rydd orchymyn iddei angylion am danat i ’th gadw; ac yn eu breichiau yth gannaliant, rhag taro o honot dy droed wrth gàreg.” Iesu á atebodd, Dywedwyd, “Na phrofa yr Arglwydd dy Dduw.” A gwedi i ddiafol orphen yr holl brofedigaeth, efe á ymadawodd ag ef dros amser.