Efe á arferodd y gymhariaeth hon hefyd; A ddichon y dall dywys y llall? Oni syrthiant ill dau yn y clawdd? Nid yw y dysgybl uwchlaw ei athraw; ond pob dysgybl wedi ei berffeithio, á fydd fel ei athraw. A phaham yr wyt ti yn edrych àr y brycheuyn yn llygad dy frawd; ond heb ganfod y ddellten yn dy lygad dy hun? Neu pa fodd y gelli ddywedyd wrth dy frawd, Frawd, gad i mi dỳnu y brycheuyn allan o’th lygad, heb ysdyried bod dellten yn dy lygad dy hun? Ragrithiwr, tỳn y ddellten allan o’th lygad dy hun yn gyntaf: yna y gweli i dỳnu allan y brycheuyn sydd yn llygad dy frawd. Nid yw hwnw bren da, sydd yn dwyn ffrwyth drwg; a nid yw hwnw bren drwg, sydd yn dwyn ffrwyth da. Oblegid pob pren á adwaenir wrth ei ffrwyth. Ni chesglir ffigys oddar ddrain; na gwinrawn oddar berth. Y dyn da o ddaionus drysor ei galon, á ddwg yr hyn sy dda: y dyn drwg o ddrygionus drysor ei galon, á ddwg yr hyn sy ddrwg; canys o gyflawnder y galon y llefara y genau.
Darllen Luwc 6
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Luwc 6:39-45
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos