Yna yr arweiniwyd Iesu gàn yr Ysbryd i’r anialwch iddei demtio gàn y diafol. A gwedi ymprydio ddeugain niwrnod a deugain nos, yr oedd efe yn newynog. Yna y temtiwr, gàn ei gyfarch ef, á ddywedodd, Os Mab Duw wyt ti, arch i’r cèryg hyn fod yn dorthau. Iesu gàn ateb, á ddywedodd, Ysgrifenwyd, “Nid drwy fara yn unig y mae dyn yn byw, ond drwy bob peth à welo Duw yn dda ei drefnu.” Yna y dyg y díafol ef i’r ddinas santaidd, a gwedi ei osod ef àr furganllaw y deml, á ddywedodd wrtho, Os Mab Duw wyt ti, tafl dy hun i lawr; canys ysgrifenwyd, “Efe á rydd dy ofal iddei angylion; hwy á’th gynnaliant yn eu breichiau, rhag taro o honot dy droed wrth gáreg.” Iesu á atebodd drachefn, Ysgrifenwyd, “Na phrofa yr Arglwydd dy Dduw.” Drachefn y cymerodd y diafol ef i fynydd tra uchel, ac oddyno á ddangosodd iddo holl deyrnasoedd y byd yn eu gogoniant, ac á ddywedodd wrtho, Y rhai hyn oll á roddaf i ti, os ymgrymi i lawr, a’m haddoli i. Iesu á atebodd, Dos ymaith, Satan; canys ysgrifenedig yw, “Yr Arglwydd dy Dduw á addoli, ac ef yn unig à wasanaethi.” Yna, gwedi i’r diafol ei adael ef, angylion á ddaethant, ac á weiniasant iddo.