Gwedi hyny, fel yr oedd Iesu wrth y bwrdd mewn tŷ, llawer o dollwyr a phechaduriaid á ddaethant, ac á osodasant eu hunain gydag ef, a’i ddysgyblion. Rhai o’r Phariseaid, wedi canfod hyn, á ddywedasant wrth ei ddysgyblion ef, Paham y mae eich Athraw chwi yn bwyta gyda thollwyr a phechaduriaid? Iesu, gwedi eu clywed hwynt, á atebodd, Ni raid i’r rhai iach wrth feddyg, ond i’r rhai cleifion. Ewch, gàn hyny, á dysgwch beth y mae hyn yn ei feddwl, “Trugaredd á ewyllysiwyf, a nid aberth:” canys daethym i alw, nid y rhai cyfiawn, ond pechaduriaid.
Darllen Matthew Lefi 9
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Matthew Lefi 9:10-13
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos