1 Cronicl 14
14
Dylanwad Dafydd yn tyfu
(2 Samuel 5:11-16)
1Dyma Huram, brenin Tyrus, yn anfon negeswyr at Dafydd. Anfonodd seiri coed a seiri maen gyda nhw, a choed cedrwydd, i adeiladu palas i Dafydd. 2Roedd Dafydd yn gweld mai’r ARGLWYDD oedd wedi’i wneud yn frenin ar Israel ac wedi gwneud i’w deyrnas lwyddo’n fawr, er mwyn ei bobl Israel.
3Yn Jerwsalem dyma Dafydd yn cymryd mwy o wragedd, ac yn cael mwy o blant eto. 4Dyma enwau’r plant gafodd e yn Jerwsalem: Shammwa, Shofaf, Nathan, Solomon, 5Ifchar, Elishwa, Elpelet, 6Noga, Neffeg, Jaffîa, 7Elishama, Beëliada ac Eliffelet.
Ennill brwydr yn erbyn y Philistiaid
(2 Samuel 5:17-25)
8Pan glywodd y Philistiaid fod Dafydd wedi cael ei eneinio’n frenin ar Israel i gyd, dyma’u byddin gyfan yn mynd allan i chwilio amdano. Clywodd Dafydd am hyn, ac aeth allan i ymladd yn eu herbyn nhw. 9Roedd byddin y Philistiaid wedi dod ac ymosod ar Ddyffryn Reffaïm.#14:9 Reffaïm Dyffryn oedd ryw 3 milltir i’r de-orllewin o Jerwsalem.
10Dyma Dafydd yn gofyn i Dduw, “Ddylwn i fynd i ymladd yn erbyn y Philistiaid? Fyddi di’n gwneud i mi ennill?” Atebodd yr ARGLWYDD, “Dos i fyny, achos bydda i’n eu rhoi nhw i ti.”
11Felly aeth i Baal-peratsîm a’u trechu nhw yno. Dwedodd Dafydd, “Mae Duw wedi gwneud i mi dorri drwy fy ngelynion fel llifogydd o ddŵr.” A dyna pam wnaeth e alw’r lle hwnnw yn Baal-peratsîm.#14:11 Baal-peratsîm sef “y meistr sy’n byrstio allan”. 12Roedd y Philistiaid wedi gadael eu heilun-dduwiau ar ôl, a dyma Dafydd yn gorchymyn iddyn nhw gael eu llosgi.
13Dyma’r Philistiaid yn ymosod eto ar y dyffryn. 14A dyma Dafydd yn mynd i ofyn eto i Dduw beth i’w wneud. Y tro yma cafodd yr ateb, “Paid ymosod arnyn nhw o’r tu blaen. Dos rownd y tu cefn iddyn nhw ac ymosod o gyfeiriad y coed balsam. 15Pan fyddi’n clywed sŵn cyffro yn y coed, ymosod ar unwaith. Dyna’r arwydd fod Duw yn mynd o dy flaen di i daro byddin y Philistiaid.” 16Felly dyma Dafydd yn gwneud fel roedd Duw wedi dweud wrtho, a dyma nhw’n taro byddin y Philistiaid yr holl ffordd o Gibeon i gyrion Geser.
17Roedd Dafydd yn enwog ym mhobman; roedd yr ARGLWYDD wedi gwneud i’r gwledydd i gyd ei ofni.
Dewis Presennol:
1 Cronicl 14: bnet
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2023

: