1 Cronicl 19
19
Dafydd yn concro’r Ammoniaid
(2 Samuel 10:1-19)
1Beth amser wedyn dyma Nachash, brenin yr Ammoniaid, yn marw, a’i fab yn dod yn frenin yn ei le. 2Dyma Dafydd yn dweud, “Dw i am fod yn garedig at Chanŵn fab Nachash, am fod ei dad wedi bod yn garedig ata i.” Felly dyma fe’n anfon ei weision i gydymdeimlo ag e ar golli ei dad. Ond pan ddaeth gweision Dafydd i wlad Ammon i gydymdeimlo â Chanŵn, 3dyma swyddogion y wlad yn dweud wrtho, “Wyt ti wir yn meddwl mai i ddangos parch at dy dad mae Dafydd wedi anfon y dynion yma i gydymdeimlo? Dim o gwbl! Mae’n debyg fod ei weision wedi dod atat ti i ysbïo ac archwilio’r wlad!” 4Felly dyma Chanŵn yn dal gweision Dafydd a’i siafio nhw, a thorri eu dillad yn eu canol, fel bod eu tinau yn y golwg. Yna eu gyrru nhw adre. 5Dyma negeswyr yn dod a dweud wrth Dafydd beth oedd wedi digwydd, anfonodd ddynion i’w cyfarfod. Roedd arnyn nhw gywilydd garw. Awgrymodd y dylen nhw aros yn Jericho nes bod barf pob un wedi tyfu eto.
6Dyma bobl Ammon yn dod i sylweddoli fod beth wnaethon nhw wedi ypsetio Dafydd. Felly dyma Chanŵn a phobl Ammon yn anfon tri deg tair tunnell o arian i logi cerbydau a marchogion gan Aram-naharaîm, Aram-maacha a Soba. 7Dyma nhw’n llogi 32,000 o gerbydau, a dyma frenin Maacha a’i fyddin yn dod ac yn gwersylla o flaen Medeba. A dyma ddynion Ammon yn dod at ei gilydd o’u trefi er mwyn mynd allan i frwydro. 8Pan glywodd Dafydd hyn, dyma fe’n anfon Joab allan gyda milwyr gorau’r fyddin gyfan. 9Yna dyma’r Ammoniaid yn dod allan a threfnu eu byddin yn rhengoedd o flaen giatiau’r ddinas. Ond roedd y brenhinoedd oedd wedi dod i ymladd ar eu pennau’u hunain ar dir agored.
10Dyma Joab yn gweld y byddai’n rhaid iddo ymladd o’r tu blaen a’r tu ôl. Felly dyma fe’n dewis rhai o filwyr gorau byddin Israel i wynebu’r Syriaid. 11A dyma fe’n cael ei frawd, Abishai, i arwain gweddill y fyddin yn erbyn yr Ammoniaid. 12“Os bydd y Syriaid yn gryfach na ni,” meddai, “tyrd ti i’n helpu ni. Ac os bydd yr Ammoniaid yn gryfach na chi, gwna i eich helpu chi. 13Gad i ni fod yn ddewr! Er mwyn ein pobl, ac er mwyn trefi ein Duw. Bydd yr ARGLWYDD yn gwneud fel mae’n gweld yn dda.”
14Felly dyma Joab a’i filwyr yn mynd allan i ymladd yn erbyn y Syriaid, a dyma’r Syriaid yn ffoi oddi wrthyn nhw. 15Pan welodd yr Ammoniaid fod y Syriaid yn ffoi, dyma nhw hefyd yn ffoi o flaen Abishai, ei frawd, a dianc i mewn i’r ddinas. A dyma Joab yn mynd yn ôl i Jerwsalem.
16Roedd y Syriaid yn gweld eu bod wedi colli’r dydd yn erbyn Israel, felly dyma nhw’n anfon am fwy o filwyr. A dyma’r Syriaid oedd yn byw yr ochr draw i afon Ewffrates yn dod. Shofach oedd y cadfridog yn arwain byddin Hadadeser.
17Pan glywodd Dafydd am hyn, dyma fe’n galw byddin Israel gyfan at ei gilydd. A dyma nhw’n croesi afon Iorddonen a dod i Chelam. A dyma Dafydd yn gosod ei fyddin yn rhengoedd i wynebu y Syriaid, ac yn dechrau ymladd yn eu herbyn. 18Dyma fyddin y Syriaid yn ffoi eto o flaen yr Israeliaid. Roedd byddin Dafydd wedi lladd saith mil o filwyr cerbyd y Syriaid, a phedwar deg mil o filwyr traed. Lladdodd Shofach, cadfridog byddin y Syriaid, hefyd. 19Pan welodd milwyr Hadadeser eu bod wedi colli’r dydd, dyma nhw’n gwneud heddwch â Dafydd, a dod o dan ei awdurdod. Felly, doedd y Syriaid ddim yn fodlon helpu’r Ammoniaid eto.
Dewis Presennol:
1 Cronicl 19: bnet
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2023