1 Cronicl 2
2
Meibion Israel (sef Jacob)
(Genesis 35:23-26)
1Dyma feibion Israel: Reuben, Simeon, Lefi, Jwda, Issachar, a Sabulon. 2Dan, Joseff, Benjamin, Nafftali, Gad, ac Asher.
Disgynyddion Jwda
3Meibion Jwda: Er, Onan a Shela. (Cafodd y tri yma eu geni i wraig o Canaan, sef merch Shwa.) Roedd Er, mab hynaf Jwda, yn gwneud pethau oedd ddim yn plesio’r ARGLWYDD, felly dyma’r ARGLWYDD yn ei ladd e. 4Yna dyma Tamar, merch-yng-nghyfraith Jwda yn cael dau fab iddo – sef Perets a Serach. Felly roedd gan Jwda bump mab i gyd.
5Meibion Perets: Hesron a Chamŵl.
6Meibion Serach: Simri, Ethan, Heman, Calcol a Dara – pump i gyd.
7Mab Carmi: Achar, yr un achosodd helynt i Israel drwy ddwyn beth oedd wedi’i gysegru i Dduw.
8Mab Ethan: Asareia.
9Meibion Hesron: Ierachmeël, Ram a Caleb.#2:9 Caleb Hebraeg, “Celwbai”. Ond gw. adn. 18.
O Ram i Dafydd
10Ram oedd tad Aminadab,
Aminadab oedd tad Nachshon, pennaeth llwyth Jwda.
11Nachshon oedd tad Salma,
a Salma oedd tad Boas.
12Boas oedd tad Obed,
ac Obed oedd tad Jesse.
13Jesse oedd tad Eliab (ei fab hynaf), yna Abinadab, Shamma,#2:13 Shamma Hebraeg, Shimea – ffurf arall ar yr un enw (gw. 1 Samuel 16:9; 17:13). 14Nethanel, Radai, 15Otsem a Dafydd. 16A’u chwiorydd nhw oedd Serwia ac Abigail. Roedd gan Serwia dri mab – Abishai, Joab ac Asahel. 17Cafodd Abigail fab o’r enw Amasa, a’r tad oedd Jether yr Ismaeliad.
Disgynyddion Caleb
18Cafodd Caleb fab Hesron blant gyda’i wraig Aswba a gyda Ierioth. Ei meibion hi oedd Ieser, Shofaf ac Ardon. 19Pan fuodd Aswba farw, dyma Caleb yn priodi Effrath, a chafodd hi fab arall iddo, sef Hur. 20Hur oedd tad Wri, ac Wri oedd tad Betsalel.
21Dyma Hesron yn cael rhyw gyda merch i Machir (tad Gilead). Roedd e wedi’i phriodi pan oedd yn chwe deg oed. A dyma hi’n cael mab iddo, sef Segwf.
22Segwf oedd tad Jair, oedd yn berchen dau ddeg tri o bentrefi yn ardal Gilead. 23(Ond dyma Geshwr a Syria yn dal pentrefi Jair, a tref Cenath hefyd gyda’r chwe deg pentref o’i chwmpas.) Roedd y rhain i gyd yn ddisgynyddion i Machir, tad Gilead.
24Ar ôl i Hesron farw dyma Caleb ei fab yn cael rhyw gydag Effrath, gweddw ei dad. A dyma hi’n cael mab iddo fe, sef Ashchwr, ddaeth yn dad i Tecoa.
Disgynyddion Ierachmeël
25Meibion Ierachmeël, mab hynaf Hesron: Ram (yr hynaf), Bwna, Oren, Otsem ac Achïa. 26Ac roedd gan Ierachmeël wraig arall o’r enw Atara, a hi oedd mam Onam.
27Meibion Ram (mab hynaf Ierachmeël): Maas, Iamîn ac Ecer.
28Meibion Onam: Shammai a Iada.
Meibion Shammai: Nadab ac Afishŵr.
29Gwraig Afishŵr oedd Abihaïl, gafodd ddau blentyn iddo, sef Achban a Molid.
30Meibion Nadab: Seled ac Apaïm. (Buodd Seled farw heb gael plant.)
31Mab Apaïm: Ishi.
Mab Ishi: Sheshan.
Mab Sheshan: Achlai.
32Meibion Iada (brawd Shammai): Jether a Jonathan. (Buodd Jether farw heb gael plant.)
33Meibion Jonathan: Peleth a Sasa.
Roedd y rhain i gyd yn ddisgynyddion i Ierachmeël.
34Doedd gan Sheshan ddim meibion, dim ond merched. Roedd ganddo was o’r enw Iarcha oedd yn Eifftiwr. 35A dyma Sheshan yn rhoi un o’i ferched yn wraig i Iarcha, a dyma hi’n cael mab iddo, sef Attai.
36Attai oedd tad Nathan,
Nathan oedd tad Safad,
37Safad oedd tad Efflal,
Efflal oedd tad Obed,
38Obed oedd tad Jehw,
Jehw oedd tad Asareia,
39Asareia oedd tad Chelets,
Chelets oedd tad Elasa,
40Elasa oedd tad Sismai,
Sismai oedd tad Shalwm,
41Shalwm oedd tad Iecameia,
a Iecameia oedd tad Elishama.
Mwy o ddisgynyddion Caleb
42Meibion Caleb, brawd Ierachmeël: Mesha (ei fab hynaf), oedd yn dad i Siff, a Maresha (ei ail fab), oedd yn dad i Hebron.
43Meibion Hebron: Cora, Tapŵach, Recem a Shema.
44Shema oedd tad Racham, oedd yn dad i Iorceam.
Recem oedd tad Shammai.
45Mab Shammai oedd Maon, oedd yn dad i Beth-tswr.
46Dyma Effa, partner#2:46 partner Mae’r gair Hebraeg yn air am feistres neu bartner cyfreithlon oedd ddim yn wraig i ddyn yn ystyr lawnaf y gair. Caleb, yn geni Charan, Motsa a Gases. Charan oedd tad Gases.
47Meibion Iahdai: Regem, Jotham, Geshan, Pelet, Effa a Shaäff.
48Dyma Maacha, partner Caleb, yn geni Shefer a Tirchana. 49Hi hefyd oedd mam Shaäff oedd yn dad i Madmanna, a Shefa oedd yn dad i Machbena a Gibea. Merch arall Caleb oedd Achsa.
50Roedd y rhain i gyd yn ddisgynyddion i Caleb.
Meibion Hur, mab hynaf Effrath, gwraig Caleb: Shofal (hynafiad pobl Ciriath-iearîm), 51Salma (hynafiad pobl Bethlehem), a Chareff (hynafiad pobl Beth-gader).
52Disgynyddion Shofal, hynafiad Ciriath-iearîm, oedd Haroe a hanner y Menwchoiaid, 53llwythau Ciriath-iearîm – yr Ithriaid, Pwthiaid, Shwmathiaid, a’r Mishraiaid. (Roedd y Soriaid a’r Eshtaoliaid yn ddisgynyddion i’r grwpiau yma hefyd.)
54Disgynyddion Salma: pobl Bethlehem, y Netoffathiaid, Atroth-beth-joab, hanner arall y Manachathiaid, y Soriaid, 55a theuluoedd yr ysgrifenyddion oedd yn byw yn Iabets, sef y Tirathiaid, Shimeathiaid, a’r Swchathiaid. Y rhain ydy’r Ceneaid, sy’n ddisgynyddion i Chamath, tad Beth-rechab.
Dewis Presennol:
1 Cronicl 2: bnet
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2023