1 Cronicl 22
22
1Dyma Dafydd yn dweud, “Dyma’r safle lle bydd teml yr ARGLWYDD Dduw, a’r allor i losgi aberthau dros Israel.”
Paratoadau i adeiladu’r Deml
2Yna dyma Dafydd yn rhoi gorchymyn i gasglu’r mewnfudwyr oedd yn byw yng ngwlad Israel at ei gilydd. Dyma fe’n penodi seiri maen i baratoi cerrig ar gyfer adeiladu teml Dduw. 3A dyma fe’n casglu lot fawr o haearn i wneud hoelion a cholfachau ar gyfer y drysau, a chymaint o efydd, doedd dim posib ei bwyso. 4Doedd dim posib cyfri’r holl goed cedrwydd chwaith. (Roedd pobl Sidon a Tyrus wedi dod â llawer iawn ohono iddo.)
5“Mae Solomon, fy mab, yn ifanc ac yn ddibrofiad,” meddai Dafydd. “Mae’n rhaid i’r deml fydd yn cael ei hadeiladu i’r ARGLWYDD fod mor wych, bydd yn enwog ac yn cael ei hedmygu drwy’r byd i gyd. Dyna pam dw i’n paratoi ar ei chyfer.” Felly roedd Dafydd wedi gwneud paratoadau mawr cyn iddo farw. 6A dyma Dafydd yn galw’i fab, Solomon, a rhoi gorchymyn iddo adeiladu teml i anrhydeddu’r ARGLWYDD, Duw Israel. 7Dwedodd wrtho, “Fy mab, roeddwn i wir eisiau adeiladu teml i anrhydeddu’r ARGLWYDD fy Nuw. 8Ond dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, ‘Rwyt ti wedi lladd gormod o bobl ac wedi ymladd llawer o frwydrau. Felly gei di ddim adeiladu teml i mi, o achos yr holl waed sydd wedi’i dywallt. 9Ond gwranda, byddi’n cael mab, a bydd e’n ddyn heddychlon. Bydda i’n gwneud i’r holl elynion o’i gwmpas roi llonydd iddo. Ei enw fydd Solomon, a bydd Israel yn cael heddwch a thawelwch yn y cyfnod pan fydd e’n frenin. 10Bydd e’n adeiladu’r deml i mi. Bydd e’n fab i mi a bydda i’n dad iddo fe. Bydda i’n gwneud i’w linach deyrnasu ar Israel am byth.’
11“Nawr, fy mab, boed i’r ARGLWYDD fod gyda ti! Boed i ti lwyddo, ac adeiladu teml i’r ARGLWYDD dy Dduw, fel dwedodd e. 12A boed i’r ARGLWYDD roi doethineb a dealltwriaeth i ti, pan fyddi di’n gyfrifol am Israel, i ti fod yn ufudd i gyfraith yr ARGLWYDD dy Dduw. 13Byddi’n siŵr o lwyddo os byddi’n cadw’n ofalus y rheolau a’r canllawiau roddodd yr ARGLWYDD i Moses ar gyfer pobl Israel. Bydd yn gryf ac yn ddewr; paid bod ag ofn na phanicio. 14Edrych, er mod i’n siomedig, dw i wedi casglu beth sydd ei angen i adeiladu teml yr ARGLWYDD: bron 4,000 o dunelli o aur, 40,000 o dunelli o arian, a chymaint o efydd a haearn does dim posib ei bwyso! Coed a cherrig hefyd. A byddi di’n casglu mwy eto. 15Mae gen ti lawer iawn o weithwyr hefyd, rhai i dorri cerrig, eraill yn seiri maen a seiri coed, a chrefftwyr o bob math, 16i weithio gydag aur, arian, efydd a haearn. Felly bwrw iddi! A boed i’r ARGLWYDD fod gyda ti!”
17Yna dyma Dafydd yn rhoi gorchymyn i swyddogion Israel i helpu ei fab Solomon. 18“Mae’r ARGLWYDD, eich Duw, gyda chi! Mae wedi rhoi heddwch i’r wlad. Mae wedi rhoi’r gwledydd o’n cwmpas i mi, ac maen nhw i gyd bellach dan awdurdod yr ARGLWYDD a’i bobl. 19Nawr, rhowch eich hunain yn llwyr i’r ARGLWYDD eich Duw. Ewch ati i adeiladu teml i anrhydeddu’r ARGLWYDD Dduw, fel y gallwch ddod ag Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD ar holl lestri sanctaidd i’r deml fydd wedi’i hadeiladu i’w anrhydeddu”.
Dewis Presennol:
1 Cronicl 22: bnet
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2023