Dw i’n gweddïo y byddwch chi’n profi’r haelioni rhyfeddol a’r heddwch dwfn mae Duw ein Tad a’r Arglwydd Iesu Grist yn ei roi i ni. Dw i bob amser yn diolch i Dduw amdanoch chi. Mae wedi bod mor hael, ac wedi rhoi cymaint o ddoniau i chi sydd wedi dod i berthyn i’r Meseia Iesu. Mae wedi’ch gwneud chi’n gyfoethog yn eich gallu i siarad am bethau ysbrydol, a’ch gwybodaeth ysbrydol. Mae’r neges am y Meseia wedi gwreiddio’n ddwfn yn eich bywydau chi. Mae gynnoch chi bob dawn ysbrydol sydd ei angen arnoch tra dych chi’n disgwyl i’r Arglwydd Iesu Grist ddod yn ôl.
Darllen 1 Corinthiaid 1
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: 1 Corinthiaid 1:3-7
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos