Nawr, wrth droi at beth sy’n dod o’r Ysbryd, dw i am i chi ddeall ffrindiau. Pan oeddech chi’n baganiaid, roeddech yn cael eich dylanwadu a’ch camarwain gan eilun-dduwiau mud. Felly dw i am i chi wybod beth sy’n dod o Dduw a beth sydd ddim. Does neb sy’n siarad dan ddylanwad Ysbryd Glân Duw yn dweud, “Mae Iesu yn felltith!” A does neb yn gallu dweud, “Iesu ydy’r Arglwydd,” ond drwy’r Ysbryd Glân. Mae gwahanol ddoniau, ond yr un Ysbryd sy’n rhoi pob un. Mae ffyrdd gwahanol o wasanaethu, ond dim ond un Arglwydd sydd. Mae Duw yn gweithio mewn ffyrdd gwahanol drwy wahanol bobl, ond yr un Duw sy’n cyflawni’r cwbl ynddyn nhw i gyd. Ac mae’r Ysbryd i’w weld yn gweithio ym mywyd pob unigolyn er lles pawb arall. Felly mae’r Ysbryd yn rhoi gair o ddoethineb i un person. Mae person arall yn cael gair o wybodaeth, drwy’r un Ysbryd. Mae un arall yn cael ffydd, drwy’r un Ysbryd, ac un arall ddoniau i iacháu, drwy’r un Ysbryd. Wedyn mae rhywun arall yn cael galluoedd gwyrthiol, neu broffwydoliaeth, neu’r gallu i ddweud ble mae’r Ysbryd wir ar waith. Mae un arall yn cael y gallu i siarad ieithoedd dieithr, a rhywun arall y gallu i esbonio beth sy’n cael ei ddweud yn yr ieithoedd hynny. Yr un Ysbryd sydd ar waith drwyddyn nhw i gyd, ac yn penderfynu beth i’w roi i bob un.
Darllen 1 Corinthiaid 12
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: 1 Corinthiaid 12:1-11
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos