1 Brenhinoedd 12
12
Gwrthryfel yn codi yn erbyn Rehoboam
(2 Cronicl 10:1-19)
1Dyma Rehoboam yn mynd i Sichem, lle roedd pobl Israel gyfan wedi dod i’w wneud yn frenin. 2Roedd Jeroboam fab Nebat yn dal yn yr Aifft ar y pryd, wedi ffoi yno oddi wrth y Brenin Solomon. Roedd yn dal yn yr Aifft pan glywodd beth oedd yn digwydd. 3Ond dyma bobl Israel yn anfon amdano, a dyma fe’n mynd gyda nhw i weld Rehoboam. 4“Roedd dy dad yn ein gweithio ni’n galed, ac yn gwneud bywyd yn faich. Os gwnei di symud y baich a gwneud pethau’n haws i ni, gwnawn ni dy wasanaethu di.” 5Dyma Rehoboam yn dweud wrthyn nhw, “Dewch yn ôl mewn deuddydd, i mi gael meddwl am y peth.” A dyma nhw’n ei adael.
6Dyma’r Brenin Rehoboam yn gofyn am farn y cynghorwyr hŷn (y rhai oedd yn gweithio i Solomon ei dad pan oedd yn dal yn fyw). “Beth ydy’ch cyngor chi? Sut ddylwn ni ateb y bobl yma?” 7A dyma nhw’n dweud, “Os byddi di’n garedig a dangos dy fod eisiau eu helpu nhw, byddan nhw’n weision ffyddlon i ti am byth.” 8Ond dyma Rehoboam yn anwybyddu’u cyngor nhw, ac yn troi at y cynghorwyr ifanc yn y llys oedd yr un oed ag e. 9Dyma fe’n gofyn iddyn nhw, “Beth ydy’ch barn chi? Beth ddylwn i ddweud wrth y bobl yma sy’n gofyn i mi symud y baich roddodd fy nhad arnyn nhw?” 10A dyma’r dynion ifainc yn dweud wrtho, “Dwed wrth y bobl yna sy’n cwyno ac yn gofyn i ti symud y baich roedd dy dad wedi’i roi arnyn nhw, ‘Mae fy mys bach i yn mynd i fod yn gryfach na dad!#12:10 Mae … dad Hebraeg “Mae fy mys bach i yn dewach na chlun fy nhad.”. 11Oedd fy nhad wedi rhoi baich trwm arnoch chi? Bydda i’n rhoi baich trymach! Oedd fy nhad yn defnyddio chwip i’ch cosbi chi? Bydda i’n defnyddio chwip fydd yn rhwygo’ch cnawd chi!’”
12Dyma Jeroboam, a’r bobl oedd gydag e, yn mynd yn ôl at Rehoboam ar ôl deuddydd, fel roedd y brenin wedi dweud. 13A dyma’r brenin yn siarad yn chwyrn gyda’r bobl, ac yn anwybyddu cyngor y dynion hŷn 14a gwrando ar y dynion ifanc. “Oedd fy nhad yn drwm arnoch chi?” meddai. “Wel, bydda i’n pwyso’n drymach! Oedd fy nhad yn defnyddio chwip i’ch cosbi chi? Bydda i’n defnyddio chwip fydd yn rhwygo’ch cnawd chi!” 15Roedd y brenin yn gwrthod gwrando ar y bobl. Ond roedd llaw’r ARGLWYDD tu ôl i’r cwbl oedd yn digwydd, er mwyn i’r neges roedd wedi’i rhoi i Jeroboam fab Nebat drwy Achïa o Seilo ddod yn wir.
16Pan welodd y bobl fod y brenin yn gwrthod gwrando arnyn nhw, dyma nhw’n rhoi’r neges yma iddo:
“Beth sydd gynnon ni i’w wneud â Dafydd?
Dŷn ni ddim yn perthyn i deulu Jesse!
Yn ôl adre bobl Israel!
Cadw dy linach dy hun, Dafydd!”
Felly dyma bobl Israel yn mynd adre. 17(Er, roedd rhai o bobl Israel yn byw yn nhrefi Jwda, a Rehoboam oedd eu brenin nhw.)
18Dyma’r Brenin Rehoboam yn anfon Adoniram, swyddog y gweithlu gorfodol, at bobl Israel, ond dyma nhw’n taflu cerrig ato a’i ladd. Felly dyma’r Brenin Rehoboam yn neidio yn ei gerbyd a dianc yn ôl i Jerwsalem. 19Mae gwrthryfel llwythau Israel yn erbyn disgynyddion Dafydd wedi para hyd heddiw.
20Pan glywodd pobl Israel fod Jeroboam wedi dod yn ôl, dyma nhw’n galw pawb at ei gilydd. Yna dyma nhw’n anfon amdano a’i wneud e’n frenin ar Israel gyfan. Dim ond llwyth Jwda#12:20 Israel … Jwda O hyn ymlaen mae “Israel” yn cyfeirio at deyrnas y gogledd. “Jwda” oedd yr enw ar deyrnas y de. oedd yn aros yn ffyddlon i deulu brenhinol Dafydd.
Proffwydoliaeth Shemaia
(2 Cronicl 11:1-4)
21Daeth Rehoboam, mab Solomon, yn ôl i Jerwsalem a galw dynion Jwda a llwyth Benjamin at ei gilydd. Roedd ganddo gant wyth deg mil o filwyr profiadol i fynd i ryfel yn erbyn Israel a cheisio ennill y deyrnas yn ôl. 22Ond cafodd Shemaia y proffwyd#12:22 y proffwyd Hebraeg, “dyn Duw”. neges gan Dduw. 23“Dwed hyn wrth Rehoboam brenin Jwda ac wrth bobl Jwda a Benjamin, a phawb arall: 24‘Mae’r ARGLWYDD yn dweud, “Peidiwch mynd i ryfel yn erbyn eich brodyr, pobl Israel. Ewch adre i gyd, am mai fi sydd wedi gwneud i hyn ddigwydd.”’” A dyma nhw’n gwrando ar yr ARGLWYDD a mynd yn ôl adre fel roedd e wedi dweud.
Jeroboam yn gwneud dau darw aur
25Dyma Jeroboam yn adeiladu caer Sichem yn y bryniau yn Effraim, a mynd i fyw yno. Ond wedyn dyma fe’n adeiladu Penuel, a symud yno. 26Roedd Jeroboam yn ofni y byddai’r frenhiniaeth yn mynd yn ôl i deulu Dafydd. 27Roedd yn ofni petai’r bobl yn mynd i aberthu yn nheml yr ARGLWYDD yn Jerwsalem, y bydden nhw’n cael eu denu yn ôl at eu hen feistr, Rehoboam, brenin Jwda, ac y byddai e’i hun yn cael ei ladd ganddyn nhw. 28Ar ôl trafod gyda’i gynghorwyr, dyma fe’n gwneud dau darw ifanc o aur, a dweud wrth y bobl, “Mae’n ormod o drafferth i chi fynd i fyny i Jerwsalem i addoli. O Israel! Dyma’r duwiau ddaeth â chi allan o wlad yr Aifft!#Exodus 32:4” 29A dyma fe’n gosod un tarw aur yn Bethel, a’r llall yn Dan. 30Gwnaeth i Israel bechu yn ofnadwy. Aeth y bobl ag un ohonyn nhw mewn prosesiwn yr holl ffordd i Dan!
31Dyma fe’n adeiladu temlau lle roedd allorau lleol, a gwneud pob math o bobl yn offeiriaid – pobl oedd ddim o lwyth Lefi. 32A dyma fe’n sefydlu Gŵyl ar y pymthegfed diwrnod o’r wythfed mis, fel yr un yn Jwda. Yna dyma fe’n mynd at yr allor yn Bethel i aberthu anifeiliaid i’r teirw roedd wedi’u gwneud. Yn Bethel hefyd dyma fe’n apwyntio offeiriaid i’r allorau roedd e wedi’u codi. 33Ar y pymthegfed diwrnod o’r wythfed mis (dyddiad roedd wedi’i ddewis o’i ben a’i bastwn ei hun), dyma Jeroboam yn aberthu anifeiliaid ar yr allor wnaeth e yn Bethel. Roedd wedi sefydlu Gŵyl i bobl Israel, ac wedi mynd i fyny ei hun at yr allor i losgi arogldarth.
Dewis Presennol:
1 Brenhinoedd 12: bnet
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2023