1 Brenhinoedd 2
2
Cyngor Dafydd i Solomon
1Pan oedd Dafydd ar fin marw, dyma fe’n rhoi siars i’w fab Solomon. 2“Fydda i ddim byw yn hir iawn eto,” meddai. “Rhaid i ti fod yn gryf a dangos dy fod yn ddyn! 3Gwna beth mae’r ARGLWYDD dy Dduw yn ei ofyn gen ti, a byw fel mae e eisiau. Rhaid i ti gadw’i reolau, ei orchmynion, y canllawiau a’r gofynion i gyd sydd yng Nghyfraith Moses. Fel yna byddi di’n llwyddo beth bynnag wnei di a beth bynnag fydd rhaid i ti ei wynebu. 4A bydd yr ARGLWYDD wedi cadw ei addewid i mi: ‘Os bydd dy ddisgynyddion di yn gwylio’u ffyrdd ac yn gwneud eu gorau glas i fyw’n ffyddlon i mi, yna bydd un o dy deulu di ar orsedd Israel am byth.’
5“Ti’n gwybod yn iawn beth wnaeth Joab, mab Serwia, i mi. Sôn ydw i am y ffordd wnaeth e ladd Abner fab Ner ac Amasa fab Jether,#2:5 Abner fab Ner – gw. 2 Samuel 3:27; Amasa fab Jether – gw. 2 Samuel 20:10. dau o arweinwyr byddin Israel. Lladdodd nhw mewn gwaed oer, a hynny mewn cyfnod o heddwch. Gadawodd staen gwaedlyd rhyfel ar y belt am ei ganol a’r sandalau oedd ar ei draed. 6Gwna di fel rwyt ti’n gweld orau, ond paid gadael iddo fyw i farw’n dawel yn ei henaint.
7“Ond bydd yn garedig at feibion Barsilai o Gilead. Gad iddyn nhw fwyta wrth dy fwrdd. Roedden nhw wedi gofalu amdana i pan oedd raid i mi ffoi oddi wrth dy frawd Absalom.
8“A cofia am Shimei fab Gera o Bachwrîm yn Benjamin. Roedd e wedi fy rhegi a’m melltithio i pan oeddwn i’n ar fy ffordd i Machanaîm. Ond wedyn daeth i lawr at yr Iorddonen i’m cyfarfod i pan oeddwn ar fy ffordd yn ôl, a dyma fi’n addo iddo ar fy llw, ‘Wna i ddim dy ladd di.’#2 Samuel 19:16-23 9Ond nawr, paid ti â’i adael heb ei gosbi. Ti’n ddyn doeth ac yn gwybod beth i’w wneud – gad iddo ddioddef marwolaeth waedlyd.”
Marwolaeth Dafydd
10Pan fuodd Dafydd farw cafodd ei gladdu yn Ninas Dafydd. 11Roedd wedi bod yn frenin ar Israel am bedwar deg o flynyddoedd. Bu’n teyrnasu yn Hebron am saith mlynedd ac yna yn Jerwsalem#2:11 Jerwsalem Hebraeg, “dinas Dafydd”. am dri deg tair o flynyddoedd. 12Yna dyma Solomon yn dod yn frenin yn lle ei dad, a gwneud y deyrnas yn ddiogel ac yn gryf.
Adoneia’n cael ei ladd
13Aeth Adoneia, mab Haggith, i weld Bathseba, mam Solomon. “Wyt ti’n dod yma’n heddychlon?” gofynnodd iddo. “Ydw”, meddai, 14“Mae gen i rywbeth i’w ofyn i ti.” “Beth ydy hwnnw?” meddai hithau. 15A dyma fe’n dweud, “Ti’n gwybod mai fi ddylai fod wedi bod yn frenin. Dyna oedd pobl Israel i gyd yn ei ddisgwyl. Ond fy mrawd gafodd deyrnasu, a’r ARGLWYDD wnaeth drefnu hynny. 16Mae gen i un peth dw eisiau ofyn gen ti. Paid gwrthod fi.” A dyma hi’n dweud, “Dos yn dy flaen.” 17“Wnei di ofyn i’r Brenin Solomon roi Abisag o Shwnem yn wraig i mi. Fydd e ddim yn dy wrthod di.” 18“Iawn”, meddai Bathseba. “Gwna i ofyn i’r brenin ar dy ran di.”
19Felly, dyma Bathseba yn mynd at y Brenin Solomon i ofyn iddo ar ran Adoneia. Dyma’r brenin yn codi i’w chyfarch ac yn ymgrymu o’i blaen hi cyn eistedd yn ôl ar ei orsedd. Yna dyma fe’n galw am gadair i’w fam, a dyma hi’n eistedd ar ei ochr dde. 20A dyma hi’n dweud wrtho, “Mae gen i rywbeth bach i’w ofyn gen ti. Paid gwrthod fi.” A dyma fe’n ateb, “Gofyn di mam. Wna i ddim dy wrthod di.” 21A dyma hi’n dweud, “Rho Abisag, y ferch o Shwnem, yn wraig i dy frawd Adoneia.” 22A dyma’r Brenin Solomon yn ateb ei fam, “Pam mai dim ond gofyn am Abisag o Shwnem wyt ti i Adoneia? Waeth i ti ofyn am y deyrnas iddo hefyd, achos mae e’n hŷn na fi, ac mae Abiathar yr offeiriad a Joab, mab Serwia, yn ei gefnogi e.” 23Yna dyma’r Brenin Solomon yn tyngu llw i’r ARGLWYDD, “Boed i Dduw ddial arna i os fydd Adoneia yn talu gyda’i fywyd am ofyn y fath beth! 24Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw (yr un sydd wedi rhoi gorsedd fy nhad Dafydd i mi, a sicrhau llinach i mi fel gwnaeth e addo), bydd Adoneia yn marw heddiw!” 25Yna dyma’r Brenin Solomon yn anfon Benaia fab Jehoiada ar ei ôl. A dyma hwnnw’n ymosod ar Adoneia a’i ladd.
26Yna dyma’r brenin yn dweud wrth Abiathar yr offeiriad, “Dos adre i Anathoth, i dy fro dy hun. Ti’n haeddu marw ond wna i ddim dy ladd di, dim ond am dy fod wedi cario Arch yr ARGLWYDD, ein Meistr, o flaen Dafydd fy nhad, ac wedi dioddef gydag e pan oedd pethau’n anodd.” 27Felly drwy ddiarddel Abiathar o fod yn offeiriad i’r ARGLWYDD, dyma Solomon yn cyflawni beth ddwedodd yr ARGLWYDD yn Seilo am ddisgynyddion Eli.#1 Samuel 2:27-36
Joab yn cael ei ladd
28Pan glywodd Joab beth oedd wedi digwydd, dyma fe’n ffoi i babell yr ARGLWYDD a gafael yng nghyrn yr allor. (Roedd Joab wedi cefnogi Adoneia; er doedd e ddim wedi cefnogi Absalom.#2 Samuel 17:25; 18:1-15) 29Pan glywodd y Brenin Solomon fod Joab wedi ffoi at yr allor ym mhabell yr ARGLWYDD, dyma fe’n dweud wrth Benaia fab Jehoiada i fynd yno a tharo Joab. 30Pan ddaeth Benaia at babell yr ARGLWYDD, dyma fe’n galw ar Joab, “Mae’r brenin yn gorchymyn i ti ddod allan.” Ond dyma Joab yn ateb, “Na! Mae’n well gen i farw yma!” Felly dyma Benaia’n mynd yn ôl at y brenin a dweud wrtho beth oedd Joab wedi’i ddweud. 31A dyma’r brenin yn dweud, “Gwna fel dwedodd e – lladd e yno, a’i gladdu. Byddi’n clirio fi a fy nheulu o’r bai am yr holl waed wnaeth Joab ei dywallt. 32Mae’r ARGLWYDD yn talu’n ôl iddo am ladd dau ddyn llawer gwell na fe’i hun – Abner fab Ner, capten byddin Israel, ac Amasa fab Jether, capten byddin Jwda – a gwneud hynny heb yn wybod i’m tad Dafydd. 33Bydd Joab a’i deulu yn euog am byth am eu lladd nhw. Ond bydd yr ARGLWYDD yn rhoi heddwch a llwyddiant i Dafydd a’i ddisgynyddion, ei deulu a’i deyrnas, am byth.” 34Felly dyma Benaia fab Jehoiada yn mynd ac ymosod ar Joab a’i ladd. Cafodd ei gladdu yn ei gartref yng nghefn gwlad. 35Yna dyma’r brenin yn penodi Benaia fab Jehoiada yn gapten ar y fyddin yn lle Joab, a Sadoc yr offeiriad i gymryd swydd Abiathar.
36Wedyn dyma’r brenin yn anfon am Shimei, a dweud wrtho, “Adeilada dŷ i ti dy hun yn Jerwsalem. Paid mynd o ma i unman. 37Os gwnei di adael, a hyd yn oed croesi Dyffryn Cidron, byddi’n cael dy ladd. Dy fai di a neb arall fydd hynny.” 38A dyma Shimei yn dweud, “Iawn, syr, fy mrenin, gwna i fel ti’n dweud.” A buodd Shimei yn byw yn Jerwsalem am amser hir iawn.
39Ond ar ôl tair blynedd dyma ddau o weision Shimei yn rhedeg i ffwrdd at Achish fab Maacha, brenin Gath. A dyma rywun yn dweud wrth Shimei, “Mae dy weision di yn Gath”. 40Felly dyma Shimei yn rhoi cyfrwy ar ei asyn a mynd i Gath i chwilio am ei weision, a dod â nhw’n ôl. 41Pan glywodd Solomon fod Shimei wedi bod i Gath ac yn ôl, 42dyma fe’n anfon am Shimei a dweud wrtho, “Wyt ti’n cofio i mi wneud i ti dyngu llw o flaen yr ARGLWYDD a dy rybuddio di i beidio gadael y ddinas a mynd allan o gwbl, neu y byddet ti’n siŵr o farw? Dwedaist ti, ‘Iawn, dw i’n cytuno i hynny.’ 43Felly, pam wyt ti heb gadw dy addewid i’r ARGLWYDD, ac ufuddhau i’r gorchymyn wnes ei roi i ti?” 44Aeth y brenin yn ei flaen i ddweud wrth Shimei, “Ti’n gwybod yn iawn faint o ddrwg wnest ti i Dafydd, fy nhad. Wel mae’r ARGLWYDD am dy gosbi am dy ddrygioni. 45Ond bydd yn fy mendithio i, y Brenin Solomon, ac yn gwneud yn siŵr fod teyrnas Dafydd yn aros am byth.” 46Rhoddodd y brenin orchymyn i Benaia fab Jehoiada, a dyma fe’n ymosod ar Shimei a’i ladd.
Dyna sut roedd Solomon wedi gwneud yn siŵr fod ei afael ar y deyrnas yn gwbl ddiogel.
Dewis Presennol:
1 Brenhinoedd 2: bnet
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2023