Roedd yna ddyn o’r enw Elcana yn byw yn Rama ym mryniau Effraim. Roedd yn perthyn i deulu Swff, un o hen deuluoedd Effraim. (Ierocham oedd ei dad, a hwnnw’n fab i Elihw, mab Tochw, mab Swff.) Roedd gan Elcana ddwy wraig, Hanna a Penina. Roedd plant gan Penina ond ddim gan Hanna. Bob blwyddyn byddai Elcana yn mynd i Seilo i addoli a chyflwyno aberthau i’r ARGLWYDD hollbwerus. Yr offeiriaid yno oedd Hoffni a Phineas, meibion Eli. Pan fyddai Elcana yn aberthu byddai’n arfer rhoi cyfran o’r cig bob un i Penina a’i meibion a’i merched i gyd. Ond byddai’n rhoi cyfran sbesial i Hanna, am mai hi oedd e’n ei charu fwyaf, er fod Duw wedi’i rhwystro hi rhag cael plant.
Roedd Penina yn arfer herian Hanna yn arw a’i phryfocio am ei bod yn methu cael plant. Yr un peth oedd yn digwydd bob blwyddyn pan oedden nhw’n mynd i gysegr yr ARGLWYDD. Byddai Penina yn pryfocio Hanna nes ei bod yn crio ac yn gwrthod bwyta. A byddai Elcana yn dweud wrthi, “Hanna, pam wyt ti’n crio a ddim yn bwyta? Pam wyt ti mor ddigalon? Ydw i ddim yn well na deg mab i ti?”
Un tro, ar ôl iddyn nhw orffen bwyta ac yfed yn Seilo, dyma Hanna’n codi a mynd i weddïo. Roedd Eli’r offeiriad yn eistedd ar gadair wrth ddrws y deml ar y pryd. Roedd Hanna’n torri ei chalon ac yn beichio crio wrth weddïo ar yr ARGLWYDD. A dyma hi’n addo i Dduw, “ARGLWYDD hollbwerus, plîs wnei di gymryd sylw ohono i, a pheidio troi oddi wrtho i? Os gwnei di roi mab i mi, gwna i ei roi i ti am ei oes, a fydd e byth yn torri ei wallt.”
Buodd Hanna’n gweddïo’n hir ar yr ARGLWYDD, ac roedd Eli wedi sylwi arni. Am ei bod hi’n gweddïo’n dawel, roedd e’n gweld ei gwefusau’n symud ond heb glywed dim, felly roedd e’n meddwl ei bod hi wedi meddwi. A dwedodd wrthi, “Pam wyt ti’n meddwi fel yma? Rho’r gorau iddi! Sobra!” Atebodd Hanna, “Na wir, syr! Dw i mor anhapus. Dw i ddim wedi bod yn yfed o gwbl. Dw i wedi bod yn bwrw fy mol o flaen yr ARGLWYDD. Paid meddwl amdana i fel rhyw wraig ddrwg, da i ddim. Dw i wedi bod yn dweud wrtho mor boenus a thrist dw i’n teimlo.” “Dos adre yn dawel dy feddwl,” meddai Eli, “a boed i Dduw Israel roi i ti beth wyt ti eisiau.” A dyma hi’n ateb, “Ti mor garedig, syr.” Felly aeth i ffwrdd a dechrau bwyta eto. Roedd yn edrych yn llawer hapusach.