2 Cronicl 14
14
Asa yn frenin Jwda
1Pan fu farw, cafodd Abeia ei gladdu yn ninas Dafydd. Daeth Asa ei fab yn frenin yn ei le. Pan ddaeth e’n frenin roedd heddwch yn y wlad am ddeg mlynedd. 2Roedd Asa yn gwneud beth oedd yn dda ac yn plesio’r ARGLWYDD. 3Dyma fe’n cael gwared â’r allorau paganaidd a’r temlau lleol, malu’r colofnau cysegredig a thorri i lawr bolion y dduwies Ashera. 4Dyma fe’n dweud wrth bobl Jwda fod rhaid iddyn nhw addoli’r ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid, a chadw ei ddysgeidiaeth a’i orchmynion. 5Dyma fe’n cael gwared â’r holl allorau lleol a’r llestri dal arogldarth o drefi Jwda. Roedd heddwch yn y wlad pan oedd e’n frenin.
6Dyma Asa’n adeiladu trefi amddiffynnol yn Jwda tra oedd y wlad yn dawel. Doedd dim rhyfel yn y cyfnod hwnnw am fod yr ARGLWYDD wedi rhoi heddwch iddo. 7Dwedodd Asa wrth bobl Jwda, “Gadewch i ni adeiladu’r trefi yma gyda waliau a thyrau o’u cwmpas, a giatiau gyda barrau i’w cloi. Mae’r wlad yma’n dal gynnon ni am ein bod wedi ceisio yr ARGLWYDD ein Duw. Dŷn ni wedi’i geisio, ac mae e wedi rhoi heddwch i ni o bob cyfeiriad.” Felly dyma nhw’n adeiladu ac roedden nhw’n llwyddiannus iawn.
8Roedd gan Asa 300,000 o filwyr yn Jwda yn cario tarianau mawr a gwaywffyn. Gyda nhw roedd 280,000 o ddynion o lwyth Benjamin wedi’u harfogi gyda tharianau bach a bwasaeth. Roedden nhw i gyd yn filwr profiadol. 9Un tro dyma Serach o Cwsh yn nwyrain Affrica yn ymosod arnyn nhw gyda byddin o filiwn o ddynion a thri chant o gerbydau rhyfel. Wrth iddyn nhw gyrraedd Maresha 10roedd Asa a’i fyddin yn Nyffryn Seffatha (heb fod yn bell o Maresha) yn trefnu’u hunain yn rhengoedd i’w gwrthwynebu.
11Dyma Asa’n gweddïo ar yr ARGLWYDD ei Dduw: “ARGLWYDD, dim ond ti sy’n gallu helpu’r gwan pan mae byddin enfawr yn dod yn eu herbyn nhw. Helpa ni ARGLWYDD ein Duw, dŷn ni’n dibynnu arnat ti. Dŷn ni wedi dod allan yn erbyn y fyddin enfawr yma ar dy ran di. O ARGLWYDD ein Duw, paid gadael i ddyn ennill yn dy erbyn di.”
12Felly dyma’r ARGLWYDD yn galluogi’r brenin Asa a byddin Jwda i orchfygu’r fyddin o Cwsh yn nwyrain Affrica. Dyma’r Affricanwyr yn ffoi 13gydag Asa a’i fyddin yn mynd ar eu holau cyn belled â Gerar. Cafodd byddin Cwsh ei difa’n llwyr gan yr ARGLWYDD a’i fyddin. A dyma Asa a’i ddynion yn casglu lot fawr o ysbail. 14Dyma nhw’n concro’r trefi o gwmpas Gerar i gyd, am fod yr ARGLWYDD wedi gwneud i’r rheiny banicio. A dyma filwyr Jwda yn casglu llwythi o bethau gwerthfawr o’r trefi hynny hefyd. 15A dyma nhw’n ymosod ar bebyll y rhai oedd yn gofalu am yr anifeiliaid, a dwyn llawer iawn o ddefaid a chamelod cyn mynd yn ôl i Jerwsalem.
Dewis Presennol:
2 Cronicl 14: bnet
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2023