2 Cronicl 22
22
Ahaseia yn frenin Jwda
(2 Brenhinoedd 8:25-29; 9:21-28)
1Dyma bobl Jerwsalem yn gwneud Ahaseia, mab ifancaf Jehoram, yn frenin yn ei le. Roedd y fyddin wnaeth ymosod ar Jwda gyda’r Arabiaid wedi lladd y meibion hŷn i gyd. Felly daeth Ahaseia (mab Jehoram) yn frenin ar Jwda. 2Roedd Ahaseia yn ddau ddeg dau#22:2 Hebraeg, pedwar deg dau. Ond gw. 2 Brenhinoedd 8:26 a rhai llawysgrifau Groeg a Syrieg. pan ddaeth yn frenin, a bu’n frenin am flwyddyn. Ei fam oedd Athaleia, wyres Omri. 3Roedd yn ymddwyn yr un fath ag Ahab a’i deulu, a’i fam oedd yn ei arwain i wneud drwg. 4Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, fel roedd teulu Ahab wedi gwneud. Ar ôl i’w dad farw, nhw oedd yn ei gynghori, a dyna wnaeth arwain at ei gwymp. 5Dyma fe’n gwrando ar eu cyngor a mynd gyda Joram fab Ahab, brenin Israel i ryfela yn erbyn Hasael,#22:5 Hasael brenin Syria o 842 i 805 cc gw. 1 Brenhinoedd 19:15. brenin Syria, yn Ramoth-gilead. Cafodd Joram ei anafu yn y frwydr, 6ac aeth yn ôl i Jesreel i geisio gwella o’i glwyfau. Aeth Ahaseia,#22:6 Ahaseia Mwyafrif y llawysgrifau Hebraeg, Asareia. Rhai llawysgrifau Hebraeg, yr LXX a’r Syrieg, Ahareia – gw. 2 Brenhinoedd 8:29. brenin Jwda, yno i ymweld ag e, am ei fod yn wael iawn.
7Roedd Duw wedi penderfynu y byddai’r ymweliad yma yn arwain at ddiwedd Joram. Tra oedd yno, dyma Ahaseia’n mynd allan gyda Joram yn erbyn Jehw fab Nimshi. (Roedd yr ARGLWYDD wedi penodi Jehw i ladd teulu Ahab i gyd.) 8Tra oedd Jehw wrthi’n cosbi teulu Ahab, dyma fe’n dod ar draws rhai o arweinwyr Jwda a meibion brodyr Ahaseia oedd yn teithio gydag e. A dyma Jehw yn eu lladd yn y fan a’r lle. 9Wedyn dyma fe’n anfon ei ddynion i chwilio am Ahaseia, a chafodd ei ddal yn cuddio yn Samaria. Pan aethon nhw ag e at Jehw, dyma Jehw yn ei ladd. Ond dyma nhw yn rhoi angladd iawn iddo, gan ei fod yn ŵyr i Jehosaffat oedd wedi dilyn yr ARGLWYDD â’i holl galon. Doedd neb ar ôl o deulu Ahaseia yn ddigon cryf i fod yn frenin.
Athaleia yn frenhines Jwda
(2 Brenhinoedd 11:1-3)
10Pan glywodd Athaleia fod ei mab Ahaseia wedi marw, dyma hi’n mynd ati i gael gwared â llinach frenhinol Jwda i gyd. 11Ond dyma Jehosheba,#22:11 Hebraeg, Jehoshabeath. merch i’r brenin Jehoram, yn cymryd Joas, mab ei brawd Ahaseia, a’i sleifio i ffwrdd oddi wrth aelodau eraill y teulu brenhinol cyn iddyn nhw gael eu lladd. Cuddiodd e gyda’i nyrs yn un o ystafelloedd gwely’r offeiriaid yn y deml. (Roedd Jehosheba yn ferch i’r brenin Jehoram, yn wraig i Jehoiada’r offeiriad, ac yn chwaer i Ahaseia.) Felly wnaeth Athaleia ddim dod o hyd i Joas, a chafodd e mo’i ladd ganddi. 12Bu’n cuddio gyda’i nyrs yn y deml am chwe mlynedd, tra oedd Athaleia’n rheoli’r wlad.
Dewis Presennol:
2 Cronicl 22: bnet
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2023

: