2 Corinthiaid 9:10-11
2 Corinthiaid 9:10-11 BNET
Duw sy’n rhoi’r had i’r heuwr a bwyd i bobl ei fwyta. Bydd yn cynyddu eich stôr chi o ‘had’ ac yn gwneud i gynhaeaf eich gweithredoedd da chi lwyddo. Bydd yn eich gwneud chi’n gyfoethog ym mhob ffordd er mwyn i chi allu bod yn hael bob amser. Bydd llawer o bobl yn diolch i Dduw pan fyddwn ni’n mynd â’ch rhodd chi i Jerwsalem.

