2 Brenhinoedd 12
12
1Cafodd Joas ei wneud yn frenin yn ystod seithfed flwyddyn Jehw fel brenin Israel. Bu’n frenin yn Jerwsalem am bedwar deg o flynyddoedd. Enw ei fam oedd Tsifia, ac roedd hi’n dod o Beersheba. 2Yr holl amser y buodd e’n frenin, gwnaeth Joas beth oedd yn plesio’r ARGLWYDD, fel roedd Jehoiada’r offeiriad wedi’i ddysgu. 3Ond er hynny wnaeth e ddim cael gwared â’r allorau lleol. Roedd y bobl yn dal i aberthu anifeiliaid a llosgi arogldarth arnyn nhw.
4Dwedodd Joas wrth yr offeiriaid, “Cymrwch yr arian sydd wedi cael ei gysegru i’r deml – treth y cyfrifiad, y pris dalwyd am unigolion, a’r rhoddion gwirfoddol. 5A defnyddiwch yr arian o’ch incwm personol hefyd i dalu am atgyweirio’r deml.” 6Ond hyd yn oed pan oedd Joas wedi bod yn frenin am ddau ddeg tair o flynyddoedd, doedd yr offeiriaid yn dal ddim wedi atgyweirio’r deml. 7Felly dyma’r Brenin Joas yn galw Jehoiada a’r offeiriaid eraill i’w weld, a gofyn iddyn nhw, “Pam dych chi ddim wedi atgyweirio’r deml? O hyn ymlaen dych chi ddim i gadw unrhyw arian sy’n cael ei roi i chi. Rhaid i’r cwbl fynd tuag at atgyweirio’r deml.” 8Felly dyma’r offeiriaid yn cytuno i beidio cymryd mwy o arian gan y bobl, ac i roi heibio’r cyfrifoldeb i atgyweirio’r deml.
9Dyma Jehoiada’r offeiriad yn cymryd cist a gwneud twll yn y caead. Yna dyma fe’n rhoi’r gist ar yr ochr dde i’r allor, wrth y fynedfa i’r deml. Roedd y porthorion yn rhoi’r holl arian roedd pobl yn ei gyfrannu yn y gist. 10Pan oedden nhw’n gweld fod y gist yn llawn, roedd ysgrifennydd y brenin a’r archoffeiriad yn cyfri’r arian a’i roi mewn bagiau. 11Yna roedden nhw’n ei roi i’r fformyn oedd yn gyfrifol am y gwaith atgyweirio. Roedden nhw wedyn yn ei ddefnyddio i dalu’r seiri coed a’r adeiladwyr oedd yn gweithio ar y deml – 12i’r dynion oedd yn adeiladu’r waliau a’r seiri maen, a hefyd i brynu coed, cerrig wedi’u naddu ac unrhyw beth arall oedd angen ar gyfer y gwaith. 13Tra oedd y gwaith o atgyweirio’r deml yn digwydd, gafodd dim o’r arian ei ddefnyddio i dalu am bowlenni arian, sisyrnau, dysglau, utgyrn nac unrhyw gelfi aur ac arian eraill i’r deml. 14Roedd y cwbl yn cael ei roi i’r fformyn oedd yn arolygu’r gwaith o atgyweirio teml yr ARGLWYDD. 15Doedd dim rhaid cadw cyfrifon manwl o’r arian oedd yn cael ei roi iddyn nhw, am eu bod yn gwbl onest. 16(Ond doedd yr arian oedd yn cael ei dalu gyda’r offrwm i gyfaddef bai#Lefiticus 5:16 a’r aberth i buro o bechod ddim yn dod i’r deml. Yr offeiriaid oedd yn cael hwnnw.)
Diwedd teyrnasiad Joas
17Bryd hynny dyma Hasael, brenin Syria, yn ymosod ar dre Gath a’i choncro. Yna dyma fe’n penderfynu ymosod ar Jerwsalem. 18Ond dyma Joas, brenin Jwda, yn talu arian mawr iddo beidio ymosod. Cymerodd Joas y cwbl roedd e a’r brenhinoedd o’i flaen (sef Jehosaffat, Jehoram ac Ahaseia) wedi’i gysegru i’r ARGLWYDD. Cymerodd yr aur oedd yn stordai’r deml a’r palas hefyd, ac anfon y cwbl i Hasael brenin Syria; a dyma Hasael a’i fyddin yn troi’n ôl a pheidio ymosod ar Jerwsalem.
19Mae gweddill hanes Joas, a’r cwbl wnaeth e ei gyflawni, i’w weld yn y sgrôl, Hanes Brenhinoedd Jwda. 20-21Dyma Iosafad fab Shimeath a Iehosafad fab Shomer, swyddogion Joas, yn cynllwynio yn ei erbyn a’i ladd yn Beth-milo (sydd ar y ffordd i lawr i Sila). Cafodd ei gladdu gyda’i hynafiaid yn Ninas Dafydd, a dyma’i fab, Amaseia, yn dod yn frenin yn ei le.
Dewis Presennol:
2 Brenhinoedd 12: bnet
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2023