2 Brenhinoedd 4
4
Eliseus yn helpu gwraig weddw dlawd
1Dyma wraig un oedd yn aelod o’r urdd o broffwydi yn dod at Eliseus a pledio am ei help. “Roedd fy ngŵr i’n un o dy ddynion di,” meddai, “ac fel ti’n gwybod, roedd e’n ddyn duwiol. Ond mae e wedi marw, a nawr mae rhywun roedd e mewn dyled iddo wedi dod i gasglu’r ddyled, ac mae am gymryd fy nau fab yn gaethweision.” 2Dyma Eliseus yn ateb, “Be alla i wneud? Dwed wrtho i, be sydd gen ti’n y tŷ?” “Does gen i ddim byd ond jar bach o olew, syr,” meddai. 3Yna dyma Eliseus yn dweud wrthi, “Dos i fenthyg llestri gan dy gymdogion. Byddi angen casglu cymaint ag y medri o lestri gweigion. 4Yna dos i’r tŷ gyda dy feibion, a chau’r drws tu ôl i ti. Tywallt olew i bob un llestr a rhoi’r rhai llawn ar un ochr.” 5Felly dyma hi’n mynd i wneud hynny, ac yn cau’r drws arni hi a’i dau fab. Wrth i’w meibion ddod â mwy a mwy o lestri iddi, roedd hi’n eu llenwi gyda’r olew. 6Pan oedd hi wedi llenwi’r llestri i gyd, dyma hi’n dweud wrth ei mab, “Tyrd â photyn arall i mi.” Ond dyma fe’n ateb, “Does dim mwy ar ôl.” A dyma’r olew yn darfod.
7Pan aeth hi i ddweud wrth y proffwyd beth oedd wedi digwydd, dyma fe’n dweud wrthi, “Dos i werthu’r olew a thalu dy ddyledion. Wedyn cei di a dy feibion fyw ar yr arian fydd dros ben.”
Y wraig gyfoethog o Shwnem a’i mab
8Un tro roedd Eliseus yn pasio heibio Shwnem.#4:8 Shwnem Tref yn Israel, tua hanner ffordd rhwng Samaria a Mynydd Carmel. Roedd Shwnem tua 25 milltir i’r gogledd o Samaria. Roedd yna wraig bwysig yn byw yno, a dyma hi’n mynnu bod Eliseus yn bwyta gyda hi. Felly bob tro roedd Eliseus yn mynd heibio Shwnem roedd e’n arfer galw heibio am bryd o fwyd.
9Roedd y wraig wedi bod yn siarad â’i gŵr, “Gwranda, dw i’n siŵr fod y dyn sy’n galw heibio yma o hyd yn broffwyd arbennig – yn ddyn sanctaidd iawn. 10Gad i ni wneud llofft fach ar y to, a rhoi gwely a bwrdd a chadair a lamp yno. Wedyn pan fydd e’n galw heibio, bydd ganddo le i aros.”
11Felly pan alwodd heibio’r tro wedyn, dyma Eliseus yn aros yn y llofft. 12Dwedodd wrth Gehasi, ei was, am alw’r wraig. A dyma hi’n dod ato. 13Roedd Eliseus wedi gofyn iddo ddweud wrthi, “Ti wedi mynd i’r holl drafferth yma. Be allwn ni ei wneud i ti? Alla i ddweud gair da ar dy ran di wrth y brenin, neu wrth bennaeth y fyddin?” Ond dyma hi’n ateb, “Na, mae’r teulu o’m cwmpas i, ac mae gen i bopeth dw i angen.” 14Felly dyma Eliseus yn gofyn i Gehasi, “Be allwn ni wneud drosti?” A dyma Gehasi’n ateb, “Wel, does ganddi hi ddim mab, ac mae ei gŵr hi’n mynd yn hen.” 15“Dwed wrthi am ddod yma,” meddai Eliseus. Felly dyma Gehasi yn ei galw hi draw, a dyma hi’n dod a sefyll wrth y drws. 16A dyma Eliseus yn dweud wrthi, “Yr adeg yma’r flwyddyn nesaf, bydd gen ti fab yn dy freichiau.” A dyma hi’n ymateb, “Syr, na! Rwyt ti’n broffwyd Duw. Paid dweud celwydd wrtho i.” 17Ond cyn hir roedd hi’n disgwyl babi, a tua’r un adeg y flwyddyn wedyn cafodd mab ei eni iddi, yn union fel roedd Eliseus wedi dweud.
18Ychydig flynyddoedd ar ôl hynny, pan oedd y bachgen ddigon hen, roedd wedi mynd allan at ei dad adeg y cynhaeaf. 19Yn sydyn dyma fe’n gweiddi ar ei dad, “O, fy mhen! Mae fy mhen i’n brifo.” Dwedodd y tad wrth un o’r gweision, “Dos ag e at ei fam.” 20Dyma hwnnw’n ei gario yn ôl at ei fam, a bu’n eistedd ar ei glin drwy’r bore. Ond yna ganol dydd dyma fe’n marw. 21Dyma hi’n ei gario i fyny i lofft y proffwyd, a’i roi i orwedd ar y gwely. Yna dyma hi’n mynd allan 22a galw ar ei gŵr, “Dw i angen mynd i weld y proffwyd. Gad i mi gael un o’r gweision ac asen i mi fynd i’w weld ar frys ac yna dod yn ôl.” 23“Pam wyt ti angen mynd i’w weld e heddiw?” meddai’r gŵr. “Dydy hi ddim yn ŵyl y lleuad newydd nac yn Saboth.” “Paid poeni, mae popeth yn iawn,” meddai hithau. 24Yna ar ôl i’r asen gael ei chyfrwyo, dyma hi’n dweud wrth y gwas, “Tyrd, gad i ni fynd yn gyflym. Paid arafu oni bai mod i’n dweud wrthot ti.” 25Ac i ffwrdd â hi i Fynydd Carmel i weld y proffwyd.#4:25 Ac i ffwrdd … i weld y proffwyd Taith o tua 25 milltir.
Gwelodd Eliseus hi’n dod o bell, a dyma fe’n dweud wrth Gehasi ei was, “Edrych, y wraig o Shwnem sydd acw. 26Brysia, rhed i’w chyfarfod, a gofyn iddi os ydy popeth yn iawn gyda hi a’i gŵr, a’i phlentyn.” Yr ateb roddodd hi i Gehasi oedd, “Ydy, mae popeth yn iawn.” 27Ond pan gyrhaeddodd hi’r proffwyd ar y mynydd dyma hi’n gafael yn ei draed. Daeth Gehasi ati gan feddwl ei symud, ond dyma’r proffwyd yn dweud wrtho, “Paid. Gad lonydd iddi. Mae rhywbeth mawr yn ei phoeni. Ond dydy’r ARGLWYDD ddim wedi dweud wrtho i beth ydy e.” 28Yna dyma hi’n dweud wrtho, “Syr, wnes i ofyn i ti am fab? Wnes i ddim pledio arnat ti i beidio dweud celwydd wrtho i?”
29Yna dyma Eliseus yn dweud wrth Gehasi, “Clyma dy wisg am dy ganol, a dos. Cymer fy ffon i. Paid stopio i gyfarch neb ar y ffordd. Dos a chyffwrdd wyneb y bachgen gyda’r ffon.” 30Ond dyma fam y plentyn yn dweud, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, a tithau’n fyw, dw i ddim am fynd yn ôl hebot ti.” Felly dyma Eliseus yn mynd gyda hi. 31Roedd Gehasi wedi mynd o’u blaenau nhw, ac wedi rhoi’r ffon ar wyneb y bachgen. Ond doedd yna dim ymateb o gwbl. Felly aeth yn ôl i’w cyfarfod a dweud, “Wnaeth y bachgen ddim deffro.”
32Pan gyrhaeddodd Eliseus y tŷ, dyna lle roedd y bachgen yn gorwedd yn farw ar ei wely. 33Dyma fe’n cau’r drws tu ôl iddo a gweddïo ar yr ARGLWYDD. 34Yna dyma fe’n mynd at y plentyn a gorwedd arno, gan roi ei geg ar geg y plentyn, ei lygaid ar ei lygaid a’i ddwylo ar ei ddwylo. Dyma fe’n ymestyn drosto nes i gorff y plentyn dwymo. 35Yna cododd Eliseus ar ei draed a bu’n cerdded yn ôl a blaen yn y tŷ. Wedyn aeth e’n ôl a gorwedd ar gorff y bachgen eto, a dyma’r bachgen yn tisian saith gwaith ac yn agor ei lygaid.
36Galwodd Eliseus ar Gehasi a dweud wrtho, “Gofyn i fam y bachgen ddod yma.” Dyma Gehasi’n ei galw, a phan ddaeth hi dyma Eliseus yn dweud wrthi, “Cymer dy fab.” 37Dyma hi’n syrthio ar ei gliniau wrth ei draed. Yna dyma hi’n codi ei mab a mynd allan.
Dwy wyrth arall
38Aeth Eliseus yn ôl i Gilgal, ac roedd yna newyn yn y wlad ar y pryd. Roedd aelodau o’r urdd o broffwydi yn ymweld ag Eliseus, a dyma fe’n dweud wrth ei was, “Rho grochan mawr ar y tân i ferwi cawl iddyn nhw.” 39Roedd un o’r proffwydi wedi mynd allan i gasglu llysiau. Daeth ar draws rhyw blanhigyn gwyllt tebyg i winwydden, a chasglu cymaint o’r ffrwyth ag y gallai ei gario yn ei glogyn. Daeth yn ôl a’u torri’n fân ac yna eu taflu i’r crochan cawl, er nad oedd yn gwybod beth oedden nhw. 40Yna dyma godi’r cawl i’w rannu i’r dynion. Ond wrth ei flasu dyma nhw’n gweiddi, “Broffwyd Duw, mae’r cawl yma’n wenwynig!” Allen nhw ddim ei fwyta. 41“Dewch â blawd i mi,” meddai Eliseus. Yna dyma fe’n taflu’r blawd i’r crochan, a dweud, “Iawn, gallwch ei rannu nawr, i’r dynion gael bwyta”. A doedd dim byd drwg yn y crochan.
42Dyma ddyn o Baal-shalisha yn dod â bara wedi’i wneud o ffrwyth cynta’r cynhaeaf i’r proffwyd – dau ddeg torth haidd a thywysennau o rawn aeddfed. Dyma Eliseus yn dweud, “Rhowch nhw i’r dynion gael bwyta.” 43Ond dyma’r un oedd yn gweini yn dweud, “Sut alla i fwydo cant o ddynion gyda hyn?” “Rho fe iddyn nhw,” meddai Eliseus, “achos mae’r ARGLWYDD wedi dweud y byddan nhw’n bwyta, a bydd peth dros ben.” 44Felly dyma fe’n rhoi’r bara iddyn nhw, ac roedd peth dros ben, fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud.
Dewis Presennol:
2 Brenhinoedd 4: bnet
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2023

: