2 Pedr 1
1
1Llythyr gan Simon Pedr, gwas a chynrychiolydd personol Iesu Grist,
At y rhai sydd â ffydd yr un mor werthfawr â ni. Dydy Iesu Grist, ein Duw a’n Hachubwr ni, ddim yn rhoi ffafriaeth i neb:
2Dw i’n gweddïo y bydd Duw yn tywallt ei haelioni rhyfeddol a’i heddwch dwfn arnoch chi wrth i chi ddod i nabod Duw a Iesu ein Harglwydd yn well.
Gwneud yn siŵr eich bod wedi’ch galw a’ch dewis
3Wrth ddod i nabod Iesu Grist yn well, mae ei nerth dwyfol yn rhoi i ni bopeth sydd ei angen i fyw fel mae Duw eisiau i ni fyw. Mae wedi’n galw ni i berthynas gydag e’i hun, i ni rannu ei ysblander a phrofi ei ddaioni. 4A thrwy hyn i gyd mae wedi addo cymaint o bethau mawr a gwerthfawr i ni. Y pethau yma sy’n eich galluogi chi i rannu ym mywyd anfarwol y natur ddwyfol. Dych chi’n osgoi’r dirywiad moesol sydd wedi lledu drwy’r byd o ganlyniad i chwantau pechadurus.
5Dyma’n union pam ddylech chi wneud popeth posib i sicrhau fod daioni yn nodweddu eich cred. Wedyn dylai’r pethau yma ddilyn yn eu tro: doethineb ymarferol, 6hunanreolaeth, dycnwch, byw fel mae Duw am i chi fyw, 7dangos gofal go iawn am eich gilydd, a chariad cwbl ddiamod. 8Os ydy’r pethau yma i’w gweld yn eich bywyd chi fwyfwy bob dydd, byddwch chi’n tyfu ac yn aeddfedu fel pobl sy’n nabod ein Harglwydd Iesu Grist. 9Mae’r rhai sydd heb y pethau yma yn eu bywydau mor fyr eu golwg maen nhw’n ddall! Maen nhw wedi anghofio’r newid ddigwyddodd pan gawson nhw eu glanhau o bechodau’r gorffennol.
10Felly, frodyr a chwiorydd, gwnewch eich gorau glas i wneud yn hollol siŵr fod Duw wir wedi’ch galw chi a’ch dewis chi. Dych chi’n siŵr o gyrraedd y nod os gwnewch chi’r pethau hyn, 11a chewch groeso mawr i mewn i ble mae ein Harglwydd a’n Hachubwr Iesu Grist yn teyrnasu am byth.
Proffwydoliaeth yn yr ysgrifau sanctaidd
12Felly dw i’n mynd i ddal ati drwy’r adeg i’ch atgoffa chi o’r pethau yma. Dych chi’n eu gwybod eisoes, ac mae gynnoch chi afael cadarn yn y gwirionedd. 13Ond dw i’n teimlo cyfrifoldeb i ddal ati i’ch atgoffa chi tra dw i’n dal yn fyw. 14Dw i’n gwybod fod fy amser i yn y corff yma ar fin dod i ben. Mae’r Arglwydd Iesu Grist wedi dangos hynny’n ddigon clir i mi. 15Felly dw i eisiau gwneud yn siŵr y byddwch chi’n dal i gofio’r pethau yma ar ôl i mi farw.
16Dim dilyn rhyw straeon dychmygol clyfar oedden ni pan ddwedon ni wrthoch chi fod yr Arglwydd Iesu Grist yn mynd i ddod yn ôl eto gyda grym. Dim o gwbl! Roedden ni’n llygad-dystion i’w fawrhydi! 17Gwelon ni e’n cael ei anrhydeddu a’i ganmol gan Dduw y Tad. Daeth llais oddi wrth y Gogoniant Mawr yn dweud, “Fy mab annwyl i ydy hwn; mae e wedi fy mhlesio i’n llwyr”.#Mathew 17:5 (cf. Salm 2:7; Eseia 42:1) 18Clywon ni’r llais hwn yn dod o’r nefoedd pan oedden ni gydag e ar ben y mynydd sanctaidd.
19A dŷn ni’n rhoi pwys mawr ar neges y proffwydi hefyd. Byddai’n beth da i chithau dalu sylw i’r neges honno. Mae fel lamp sy’n goleuo rhywle tywyll nes i’r dydd wawrio ac i ‘seren y bore’ godi i oleuo eich meddyliau chi. 20Mae’n hynod o bwysig i chi ddeall hyn – mai dim syniadau’r proffwyd ei hun ydy’r negeseuon sydd yn yr ysgrifau sanctaidd. 21Dim y proffwyd ei hun oedd yn penderfynu ei fod am ddweud rhywbeth. Er mai pobl oedd yn gwneud y siarad, yr Ysbryd Glân oedd yn eu cymell nhw i siarad. Roedden nhw’n dweud beth oedd Duw am iddyn nhw ei ddweud.
Dewis Presennol:
2 Pedr 1: bnet
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2023

: