Y gwir ydy y bydd pawb sydd am ddilyn y Meseia Iesu a byw fel mae Duw am iddyn nhw fyw yn cael eu herlid. Ond bydd pobl ddrwg a thwyllwyr yn mynd o ddrwg i waeth, yn twyllo pobl eraill ond wedi’u twyllo’u hunain yr un pryd. Ond dal di dy afael yn beth rwyt wedi’i ddysgu. Rwyt ti’n gwybod yn iawn mai dyna ydy’r gwir, ac yn gwybod sut bobl ddysgodd di. Roeddet ti’n gyfarwydd â’r ysgrifau sanctaidd ers yn blentyn. Drwyddyn nhw y dest ti i ddeall sut i gael dy achub, drwy gredu yn y Meseia Iesu. Duw sydd wedi ysbrydoli’r ysgrifau sanctaidd hynny i gyd, ac maen nhw’n dysgu beth sy’n wir i ni, yn cywiro syniadau anghywir, yn dangos beth dŷn ni’n ei wneud o’i le, a’n dysgu ni i fyw yn iawn. Felly mae gan bobl Dduw bopeth sydd ei angen iddyn nhw wneud pob math o bethau da.
Darllen 2 Timotheus 3
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: 2 Timotheus 3:12-17
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos