Roedd Steffan yn ddyn oedd â ffafr Duw arno a nerth Duw ar waith yn ei fywyd. Roedd yn gwneud gwyrthiau rhyfeddol ymhlith y bobl, oedd yn dangos fod Duw gydag e. Ond dyma rhai o aelodau’r synagog oedd yn cael ei galw’n ‘Synagog y Dynion Rhydd’ yn codi yn ei erbyn. Iddewon o Cyrene ac Alecsandria oedden nhw, yn ogystal â rhai o Cilicia ac o dalaith Asia. Dyma nhw’n dechrau dadlau gyda Steffan, ond doedden nhw ddim yn gallu ateb ei ddadleuon. Roedd e mor ddoeth, ac roedd yr Ysbryd Glân yn amlwg yn siarad drwyddo.
Darllen Actau 6
Gwranda ar Actau 6
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Actau 6:8-10
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos