Yn y cyfamser, roedd Saul yn dal i fynd o gwmpas yn bygwth lladd dilynwyr yr Arglwydd. Roedd wedi mynd at yr Archoffeiriad i ofyn am lythyrau i synagogau Damascus yn rhoi’r hawl iddo arestio unrhyw un oedd yn dilyn y Ffordd. Roedd ganddo awdurdod i gadw dynion a merched yn y ddalfa a mynd â nhw’n gaeth i Jerwsalem. Roedd yn agos at Damascus pan fflachiodd golau disglair o’r nefoedd o’i gwmpas. Syrthiodd ar lawr a chlywed llais yn dweud wrtho: “Saul? Saul? Pam wyt ti’n fy erlid i?” “Pwy wyt ti, syr?” gofynnodd Saul. “Iesu ydw i,” atebodd, “yr un rwyt ti’n ei erlid. Nawr cod ar dy draed a dos i mewn i’r ddinas. Cei di wybod yno beth mae’n rhaid i ti ei wneud.” Roedd y rhai oedd yn teithio gydag e’n sefyll yn fud; roedden nhw’n clywed y llais ond doedden nhw’n gweld neb. Cododd Saul ar ei draed, ond pan agorodd ei lygaid, doedd e ddim yn gallu gweld. Felly dyma nhw’n gafael yn ei law ac yn ei arwain i mewn i dre Damascus. Arhosodd yno am dri diwrnod. Roedd yn ddall ac yn gwrthod bwyta nac yfed dim. Yn byw yn Damascus roedd disgybl o’r enw Ananias oedd wedi cael gweledigaeth o’r Arglwydd yn galw arno – “Ananias!” “Ie, Arglwydd,” atebodd. A dyma’r Arglwydd yn dweud wrtho, “Dos i dŷ Jwdas yn Stryd Union a gofyn am ddyn o Tarsus o’r enw Saul. Mae yno’n gweddïo. Dw i wedi dangos iddo y bydd dyn o’r enw Ananias yn mynd ato a gosod ei ddwylo arno iddo gael ei olwg yn ôl.” “Ond Arglwydd,” meddai Ananias, “dw i wedi clywed llawer o hanesion am y dyn yma. Mae wedi gwneud pethau ofnadwy i dy bobl di yn Jerwsalem. Mae’r prif offeiriaid wedi rhoi awdurdod iddo ddod yma i arestio pawb sy’n credu ynot ti.” Ond meddai’r Arglwydd wrth Ananias, “Dos! Dyma’r dyn dw i wedi’i ddewis i ddweud amdana i wrth bobl o genhedloedd eraill a’u brenhinoedd yn ogystal ag wrth bobl Israel.
Darllen Actau 9
Gwranda ar Actau 9
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Actau 9:1-15
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos