Pan gyrhaeddodd Saul Jerwsalem, ceisiodd fynd at y credinwyr yno, ond roedd ganddyn nhw ei ofn. Doedden nhw ddim yn credu ei fod wedi dod yn Gristion go iawn. Ond dyma Barnabas yn ei dderbyn, ac yn mynd ag e at yr apostolion. Dwedodd wrthyn nhw sut gwelodd Saul yr Arglwydd pan oedd yn teithio i Damascus, a beth oedd yr Arglwydd wedi’i ddweud wrtho. Hefyd dwedodd ei fod wedi pregethu am Iesu yn gwbl ddi-ofn pan oedd yn Damascus. Felly cafodd ei dderbyn gan yr apostolion, ac roedd yn mynd o gwmpas Jerwsalem yn gwbl agored yn dweud wrth bawb am yr Arglwydd Iesu. Buodd yn siarad ac yn dadlau gyda rhyw Iddewon Groegaidd, ond y canlyniad oedd iddyn nhw benderfynu ei ladd. Pan glywodd y credinwyr am y peth, dyma nhw’n mynd â Saul i Cesarea, ac yna ei anfon yn ei flaen i Tarsus lle roedd ei gartref. Ar ôl hyn cafodd yr eglwys yn Jwdea, Galilea a Samaria gyfnod o dawelwch a llwyddiant – roedd ffydd y credinwyr yn cryfhau ac roedd eu niferoedd yn tyfu hefyd. Roedden nhw’n byw mewn ffordd oedd yn dangos eu bod yn ofni’r Arglwydd, a’r Ysbryd Glân yn eu hannog yn eu blaenau.
Darllen Actau 9
Gwranda ar Actau 9
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Actau 9:26-31
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos