Pregethwr 11
11
1“Bydd yn hael a rhannu dy gynnyrch#11:1 Hebraeg, “Tafla dy fara ar wyneb y dyfroedd.” Idiom sy’n disgrifio haelioni. –
ac ymhen amser fe gei dy dalu’n ôl.
2Rho beth ohono i nifer o wahanol bobl,
wyddost ti ddim beth all fynd o’i le yn dy fywyd.”
3Pan mae’r cymylau’n dduon,
byddan nhw’n tywallt glaw ar y ddaear.
Sdim ots i ba gyfeiriad mae coeden yn syrthio,
bydd yn aros lle syrthiodd.
4Fydd ffermwr sy’n disgwyl tywydd perffaith byth yn hau,
a’r un sy’n gwylio pob cwmwl byth yn medi cynhaeaf.
5Yn union fel na elli wybod sut mae anadl bywyd
yn mynd i gorff plentyn yng nghroth ei fam,
alli di ddim rhagweld beth fydd Duw’n ei wneud,
a fe sydd wedi creu popeth.
6Hau dy had yn y bore,
a phaid segura gyda’r nos;
wyddost ti ddim pa un fydd yn llwyddo –
y naill neu’r llall, neu’r ddau fel ei gilydd.
Cyngor yr Athro – mwynhau bywyd
7“Mae golau bywyd#11:7 golau bywyd Hebraeg, “golau”. Mae golau yn ddarlun o fywyd, a thywyllwch yn ddarlun o farwolaeth. mor felys,
ac mae’n hyfryd cael gweld yr haul!”
8Os ydy rhywun yn cael oes hir,
dylai fwynhau’r blynyddoedd i gyd,
ond rhaid cofio fod dyddiau tywyll marwolaeth yn hirach.
Mae popeth sydd i ddod yn ddirgelwch!
Cyngor i bobl ifanc fod yn ddoeth
9Ti’n ifanc! Mwynha dy hun tra mae gen ti gyfle!
Cei ddigon o hwyl a sbri pan wyt ti’n ifanc.
Gwna be fynni di – beth bynnag sy’n cymryd dy ffansi –
ond cofia y bydd Duw yn dy alw i gyfrif am y cwbl.
10Paid cael dy lethu gan boenau bywyd,
a chadwa dy hun yn iach!
Dydy ieuenctid a gwallt du ddim yn para’n hir!
Dewis Presennol:
Pregethwr 11: bnet
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2023

: