Esther 5
5
Gwledd gyntaf Esther
1Ar y trydydd diwrnod o’i hympryd, dyma Esther yn gwisgo’i dillad brenhinol, a mynd i gyntedd mewnol y palas tu allan i neuadd y brenin. Roedd y brenin yno, yn eistedd ar ei orsedd gyferbyn â’r drws. 2Pan welodd fod y Frenhines Esther yn sefyll yn y cyntedd tu allan, roedd e wrth ei fodd. Dyma fe’n estyn y deyrnwialen aur oedd yn ei law at Esther, a dyma hithau yn mynd ato ac yn cyffwrdd blaen y deyrnwialen. 3A dyma’r brenin yn gofyn iddi, “Y Frenhines Esther, beth alla i wneud i ti? Beth wyt ti eisiau? Dw i’n fodlon rhoi hyd at hanner y deyrnas i ti!” 4Dyma Esther yn ateb, “Os ydy’r brenin yn gweld yn dda, byddwn i’n hoffi iddo fe a Haman ddod heddiw i wledd dw i wedi’i pharatoi.” 5A dyma’r brenin yn gorchymyn, “Ewch i nôl Haman ar unwaith, i ni wneud beth mae Esther yn ei ofyn.” Felly dyma’r brenin a Haman yn mynd i’r wledd roedd Esther wedi’i pharatoi.
6Tra’n yfed gwin yn y wledd, dyma’r brenin yn gofyn i Esther, “Gofyn am beth bynnag wyt ti eisiau, ac fe’i cei. Be fyddet ti’n hoffi i mi ei wneud? Gofyn am gymaint â hanner y deyrnas os wyt ti eisiau, a dyna gei di!” 7A dyma Esther yn ateb, “Dyma beth faswn i’n hoffi: 8Os ydw i wedi plesio’r brenin a’i fod yn gweld yn dda i roi i mi beth dw i eisiau, baswn i’n hoffi iddo fe a Haman ddod eto fory i wledd arall dw i wedi’i pharatoi. Gwna i ddweud wrth y brenin beth dw i eisiau bryd hynny.”
Haman eisiau lladd Mordecai
9Aeth Haman i ffwrdd y diwrnod hwnnw yn teimlo’n rêl boi. Ond yna dyma fe’n gweld Mordecai yn y llys brenhinol yn gwrthod codi iddo na dangos parch ato. Roedd Haman wedi gwylltio’n lân. Roedd e’n berwi! 10Ond dyma fe’n llwyddo i reoli ei dymer, ac aeth yn ei flaen adre.
Ar ôl cyrraedd adre dyma fe’n galw’i ffrindiau at ei gilydd, a’i wraig Seresh. 11A dyma fe’n dechrau brolio am ei gyfoeth mawr, y nifer o feibion oedd ganddo, a’r ffaith fod y brenin wedi’i anrhydeddu e a’i osod e’n uwch na’r swyddogion eraill i gyd. 12Ac aeth ymlaen i ddweud, “A ces wahoddiad gan y Frenhines Esther i fynd gyda’r brenin i’r wledd roedd hi wedi’i pharatoi. Fi oedd yr unig un! A dw i wedi cael gwahoddiad i fynd yn ôl gyda’r brenin eto fory. 13Ond fydda i byth yn hapus tra mae Mordecai yr Iddew yna yn dal yn ei swydd.” 14Yna dyma’i wraig a’i ffrindiau i gyd yn dweud wrtho, “Adeilada grocbren anferth, dau ddeg pum metr o uchder. Yna bore fory, dos i ddweud wrth y brenin am grogi Mordecai arno. Wedyn cei fynd i’r cinio gyda’r brenin, a mwynhau dy hun.” Roedd Haman yn meddwl fod hynny’n syniad gwych. A dyma fe’n trefnu i’r crocbren gael ei adeiladu.
Dewis Presennol:
Esther 5: bnet
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2023

: