Esther 8
8
Mordecai yn cael dyrchafiad
1Y diwrnod hwnnw, dyma’r Brenin Ahasferus yn rhoi ystad Haman, gelyn yr Iddewon, i’r Frenhines Esther. Yna dyma Mordecai yn cael ei alw i sefyll o flaen y brenin. (Roedd Esther wedi dweud wrth y brenin eu bod nhw’n perthyn.) 2A dyma’r brenin yn cymryd ei sêl-fodrwy (sef yr un oedd Haman wedi bod yn ei gwisgo), a’i rhoi hi i Mordecai. Wedyn, dyma Esther yn penodi Mordecai i redeg ystad Haman.
Deddf yn caniatáu i’r Iddewon amddiffyn eu hunain
3Dyma Esther yn mynd i siarad â’r brenin eto. Syrthiodd wrth ei draed yn crio, a chrefu am drugaredd. Roedd ganddi eisiau iddo wrthdroi cynllun drwg Haman yr Agagiad yn erbyn yr Iddewon. 4A dyma’r brenin yn estyn ei deyrnwialen aur ati. Cododd Esther ar ei thraed o’i flaen 5a gofyn iddo, “Os ydw i wedi plesio’r brenin, ac os ydy e’n gweld yn dda i fod yn garedig ata i a rhoi i mi beth dw i eisiau, wnaiff e orchymyn mewn ysgrifen fod bwriad drwg Haman fab Hammedatha, yr Agagiad, i ladd pob Iddew drwy’r taleithiau i gyd, yn cael ei ddiddymu? 6Sut alla i eistedd yn ôl a gwylio’r fath drychineb yn digwydd i’m pobl, a’m teulu i gyd yn cael eu lladd?”
7A dyma’r Brenin Ahasferus yn dweud wrth y Frenhines Esther ac wrth Mordecai, “Dw i wedi rhoi ystad Haman i Esther, ac wedi crogi Haman am ei fod wedi bwriadu ymosod ar yr Iddewon. 8A nawr cewch chi ysgrifennu ar fy rhan beth bynnag dych chi’n deimlo sy’n iawn i’w wneud gyda’r Iddewon, a selio’r ddogfen gyda fy sêl-fodrwy i. Mae’n amhosib newid deddf sydd wedi’i hysgrifennu yn enw’r brenin, ac wedi’i selio gyda’i sêl-fodrwy e.”
9Felly ar y trydydd ar hugain o’r trydydd mis, sef Sifan,#8:9 Sifan Trydydd mis y calendr Hebreig, o tua canol Mai i ganol Mehefin. Roedd dau fis a deg diwrnod wedi mynd heibio ers i Haman gyhoeddi’r gorchymyn fod yr Iddewon i gael eu lladd (gw. 3:7,12). dyma ysgrifenyddion y brenin yn cael eu galw. A dyma nhw’n ysgrifennu popeth roedd Mordecai yn ei orchymyn – at yr Iddewon, ac at raglawiaid, llywodraethwyr a swyddogion pob talaith o India i Affrica (cant dau ddeg saith o daleithiau i gyd). Roedd llythyr pob talaith yn cael ei ysgrifennu yn iaith y dalaith honno, a’r llythyr at yr Iddewon yn eu hiaith nhw. 10Roedd Mordecai yn ysgrifennu ar ran y Brenin Ahasferus, a chafodd y llythyrau eu selio gyda sêl-fodrwy y brenin. Yna dyma’r llythyrau yn cael eu dosbarthu gan negeswyr oedd yn marchogaeth y ceffylau cyflymaf yn y stablau brenhinol.
11Rhoddodd y brenin ganiatád i’r Iddewon ddod at ei gilydd i amddiffyn eu hunain. Roedden nhw’n cael lladd a dinistrio milwyr unrhyw dalaith oedd yn ymosod arnyn nhw, lladd eu gwragedd a’u plant, a chymryd eu heiddo oddi arnyn nhw. 12Roedd hyn i gyd i ddigwydd drwy bob talaith oedd dan reolaeth y Brenin Ahasferus, ar un diwrnod penodol, sef y trydydd ar ddeg o’r deuddegfed mis (Mis Adar). 13Roedd copi o’r ddogfen yma i fynd i bob talaith, ac i’w gwneud yn gyfraith ynddyn nhw i gyd. Roedd pawb i gael gwybod am y peth. Wedyn byddai’r Iddewon yn barod ar gyfer y diwrnod hwnnw, i ddial ar eu gelynion.
14Dyma’r negeswyr yn rhuthro allan ar frys, ar gefn ceffylau o’r stablau brenhinol, a gorchymyn y brenin ganddyn nhw. Cafodd y gyfraith ei chyhoeddi yn y gaer ddinesig yn Shwshan hefyd.
15Pan aeth Mordecai allan oddi wrth y brenin, roedd wedi’i arwisgo mewn dillad brenhinol o borffor a gwyn. Roedd twrban euraid mawr ar ei ben, a mantell o liain main porffor ar ei ysgwyddau. Roedd pawb yn Shwshan yn dathlu, 16ac roedd yr Iddewon wrth eu boddau ac yn cael eu parchu gan bawb. 17Yn y taleithiau a’r trefi i gyd lle roedd gorchymyn y brenin wedi’i gyhoeddi, roedd yr Iddewon wedi cymryd gwyliau i ddathlu a gwledda. Ac roedd llawer o bobl eraill yn honni eu bod wedi troi’n Iddewon, am fod ganddyn nhw gymaint o ofn beth fyddai’r Iddewon yn ei wneud iddyn nhw.
Dewis Presennol:
Esther 8: bnet
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2023

: