Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseciel 10

10
Ysblander Duw yn gadael y Deml
1Yna wrth i mi edrych dyma fi’n gweld, ar y llwyfan uwchben y cerwbiaid, rywbeth oedd yn edrych yn debyg i orsedd wedi’i gwneud o saffir yn dod i’r golwg. 2A dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth y dyn mewn gwisg o liain: “Dos rhwng yr olwynion o dan y cerwbiaid, llenwi dy ddwylo gyda’r marwor poeth, a’u taflu nhw dros y ddinas i gyd.”
A dyma fi’n ei weld yn mynd i nôl y marwor. 3(Roedd y cerwbiaid yn sefyll i gyfeiriad y de o’r deml ar y pryd, ac roedd cwmwl yn llenwi’r iard fewnol.) 4Dyma ysblander yr ARGLWYDD yn codi oddi ar y cerbyd a’r cerwbiaid ac yn symud at garreg drws y deml. Dyma’r cwmwl yn llenwi’r deml i gyd, ac roedd ysblander yr ARGLWYDD yn disgleirio’n llachar yn yr iard fewnol. 5Roedd sŵn adenydd y cerwbiaid i’w glywed o’r iard allanol. Roedd fel sŵn y Duw sy’n rheoli popeth yn siarad.
6Pan ddwedodd yr ARGLWYDD wrth y dyn mewn gwisg o liain, “Cymer beth o’r tân sydd rhwng yr olwynion dan y cerwbiaid,” dyma fe’n mynd a sefyll wrth ymyl un o’r olwynion. 7-8Roedd gan y cerwbiaid ddwylo a breichiau dynol o dan eu hadenydd. A dyma un o’r cerwbiaid yn estyn ei law at y tân oedd rhyngddyn nhw, ac yn cymryd peth ohono a’i roi yn nwylo’r dyn oedd mewn gwisg o liain. Ar ôl cymryd y tân dyma’r dyn yn mynd allan.
9Wrth i mi edrych dyma fi’n sylwi ar y pedair olwyn wrth ymyl y cerwbiaid. Roedd un olwyn wrth ymyl pob cerwb, ac roedden nhw’n sgleinio fel meini saffir. 10Roedd y pedair olwyn yn edrych yn union yr un fath â’i gilydd. Roedd fel petai olwyn arall y tu mewn iddyn nhw ar ongl sgwâr. 11Pan oedd y cerwbiaid yn symud roedden nhw’n gallu mynd i unrhyw un o’r pedwar cyfeiriad heb orfod troi. Pa gyfeiriad bynnag roedden nhw’n mynd, roedd y wynebau eraill yn eu dilyn, heb orfod troi. 12Roedd eu cyrff yn gyfan – eu cefnau, eu dwylo a’u hadenydd – wedi’u gorchuddio â llygaid, ac roedd olwynion y pedwar wedi’u gorchuddio â llygaid hefyd. 13Clywais yr olwynion yn cael eu galw yn ‘olwynion yn chwyrlïo’.
14Roedd gan bob un o’r cerwbiaid bedwar wyneb: wyneb tarw,#10:14 tarw Hebraeg, “y cerwb”, ond gw. 1:10. wyneb dynol, wyneb llew ac wyneb eryr. 15A dyma’r cerwbiaid yn mynd at i fyny. Nhw oedd y creaduriaid byw roeddwn i wedi’u gweld wrth Gamlas Cebar. 16Pan oedd y cerwbiaid yn symud, roedd yr olwynion wrth eu hymyl nhw’n symud. Pan oedd y cerwbiaid yn lledu eu hadenydd i godi oddi ar y ddaear, roedd yr olwynion yn aros gyda nhw. 17Pan oedd y cerwbiaid yn stopio neu’n codi, roedd yr olwynion yn stopio a chodi gyda nhw, am fod ysbryd y creaduriaid byw yn yr olwynion.
18A dyma ysblander yr ARGLWYDD yn symud i ffwrdd o’r deml, ac yn hofran uwchben y cerwbiaid. 19Ac wrth i mi edrych, dyma’r cerwbiaid yn lledu eu hadenydd ac yn codi oddi ar y ddaear (a’r olwynion gyda nhw). Ond dyma nhw’n stopio wrth y fynedfa i giât ddwyreiniol y deml, gydag ysblander Duw Israel yn hofran uwch eu pennau.
20Nhw oedd y creaduriaid byw roeddwn i wedi’u gweld o dan Dduw Israel pan oeddwn wrth Gamlas Cebar. Rôn i’n sylweddoli mai cerwbiaid oedden nhw. 21Roedd gan bob un bedwar wyneb a phedair aden, gyda breichiau a dwylo dynol o dan yr adenydd. 22Roedd eu hwynebau yn union yr un fath â’r rhai roeddwn i wedi’u gweld wrth Gamlas Cebar. Roedden nhw’n symud yn syth yn eu blaenau.

Dewis Presennol:

Eseciel 10: bnet

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda