Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseciel 42

42
Blociau eraill o Ystafelloedd
1Yna aeth y dyn â fi i’r iard allanol, i’r ochr ogleddol. Roedd bloc o ystafelloedd yno gyferbyn â’r iard sydd ar wahân ac wrth ymyl yr adeilad ger y wal ogleddol. 2Roedd yn bum deg dau metr a hanner o hyd ac yn ddau ddeg chwech metr a chwarter o led. 3Roedd y bloc yma o ystafelloedd yn edrych dros yr iard fewnol oedd yn ddeg metr a hanner o led un ochr, a dros bafin yr iard allanol ar yr ochr arall. Roedd wedi’i adeiladu ar dri llawr. 4O flaen yr ystafelloedd roedd llwybr pum metr a chwarter o led a phum deg dau metr a hanner o hyd. Roedd eu drysau’n wynebu’r gogledd. 5Roedd yr ystafelloedd ar y llawr uchaf yn fwy cul, am fod y galerïau yn cymryd mwy o le nag ar y llawr isaf a’r llawr canol. 6Am eu bod ar dair lefel, a heb golofnau i’w cynnal fel yr ystafelloedd yn yr iard, roedd yr ystafelloedd uwch wedi’u gosod yn bellach yn ôl na’r rhai oddi tanyn nhw. 7Roedd wal dau ddeg chwech metr o hyd rhwng yr ystafelloedd a’r iard allanol. 8Roedd y bloc o ystafelloedd oedd yn wynebu’r iard allanol yn ddau ddeg chwech metr o hyd, ond y rhai oedd yn wynebu’r deml yn bum deg dau metr a hanner. 9Roedd mynedfa i’r ystafelloedd isaf o’r iard allanol ar yr ochr ddwyreiniol.
10Ar yr ochr ddeheuol ar hyd wal yr iard allanol roedd bloc arall o ystafelloedd gyferbyn â’r iard sydd ar wahân ac wrth ymyl yr adeilad ger y wal ogleddol. 11Roedd llwybr o’u blaenau nhw. Roedden nhw’n union yr un fath â’r ystafelloedd ar yr ochr ogleddol. Roedden nhw yr un hyd a lled â’r lleill, a’r drysau a phopeth arall yn yr un lle. 12Roedd y drysau’n wynebu’r de, ac roedd mynedfa i’r ystafelloedd ar yr ochr ddwyreiniol.
13A dyma’r dyn yn dweud wrtho i: “Mae’r ystafelloedd yma i’r gogledd a’r de, ac sy’n wynebu’r iard sydd ar wahân, yn ystafelloedd sydd wedi’u cysegru. Dyna lle mae’r offeiriaid sy’n mynd at yr ARGLWYDD yn bwyta’r offrymau sanctaidd. Dyna lle byddan nhw’n gosod yr offrymau – yr offrwm o rawn, yr offrwm i lanhau o bechod, a’r offrwm i gyfaddef bai. Mae’r ystafelloedd yma wedi’u cysegru i’r pwrpas hwnnw. 14Dydy’r offeiriaid ddim i fynd yn syth allan o’r cysegr i’r iard allanol. Rhaid iddyn nhw dynnu’r dillad cysegredig maen nhw wedi bod yn gweinidogaethu ynddyn nhw a gwisgo dillad eraill cyn mynd allan i ble mae’r bobl yn cael mynd.”
Mesur y Wal Allanol
15Ar ôl iddo orffen mesur y tu mewn i adeiladau’r deml, aeth y dyn â fi allan drwy’r giât ddwyreiniol a mesur y tu allan i’r cwbl. 16Defnyddiodd ei ffon fesur ar yr ochr ddwyreiniol ac roedd yn ddau gant chwe deg dau metr a hanner. 17-19Yna mesurodd yr ochr ogleddol, yr ochr ddeheuol a’r ochr orllewinol, ac roedden nhw i gyd yr un faint. 20Mesurodd y wal ar y pedair ochr. Roedd yn ddau cant chwe deg dau metr a hanner bob ffordd. Roedd y waliau yma’n gwahanu’r cysegredig oddi wrth y cyffredin.

Dewis Presennol:

Eseciel 42: bnet

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda