Yn ystod y nos dyma Jacob yn codi a chroesi rhyd Jabboc gyda’i ddwy wraig, ei ddwy forwyn a’i un deg un mab. Ar ôl mynd â nhw ar draws, dyma fe’n anfon pawb a phopeth arall oedd ganddo drosodd. Roedd Jacob ar ei ben ei hun. A dyma ddyn yn dod ac yn reslo gydag e nes iddi wawrio. Pan welodd y dyn nad oedd e’n ennill, dyma fe’n taro Jacob yn ei glun a’i rhoi o’i lle. “Gad i mi fynd,” meddai’r dyn, “mae hi’n dechrau gwawrio.” “Na!” meddai Jacob, “Wna i ddim gadael i ti fynd nes i ti fy mendithio i.” Felly dyma’r dyn yn gofyn iddo, “Beth ydy dy enw di?” “Jacob,” meddai. A dyma’r dyn yn dweud wrtho, “Fyddi di ddim yn cael dy alw yn Jacob o hyn ymlaen. Israel fydd dy enw di. Am dy fod ti wedi reslo gyda Duw a phobl, ac wedi ennill.” Gofynnodd Jacob iddo, “Beth ydy dy enw di?” “Pam wyt ti’n gofyn am fy enw i?” meddai’r dyn. Ac wedyn dyma fe’n bendithio Jacob yn y fan honno. Felly galwodd Jacob y lle yn Peniel. “Dw i wedi gweld Duw wyneb yn wyneb,” meddai, “a dw i’n dal yn fyw!” Roedd yr haul yn tywynnu ar Jacob wrth iddo adael Peniel. Ac roedd yn gloff o achos yr anaf i’w glun. (Dyna pam dydy pobl Israel hyd heddiw ddim yn bwyta’r gewyn wrth gymal y glun. Maen nhw’n cofio’r digwyddiad yma, pan gafodd Jacob ei daro ar ei glun.)
Darllen Genesis 32
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Genesis 32:22-32
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos