Oes! Mae tyrfa enfawr o’n cwmpas ni yn dweud mai trystio Duw ydy’r ffordd orau i fyw. Felly gadewch i ni gael gwared â phopeth sy’n ein dal ni’n ôl, yn arbennig y pechod sy’n denu’n sylw ni mor hawdd. Gadewch i ni fod yn benderfynol o ddal ati, a rhedeg y ras sydd o’n blaenau i’w diwedd. Rhaid i ni hoelio’n sylw ar Iesu – fe ydy’r pencampwr a’r hyfforddwr sy’n perffeithio ein ffydd ni. Er mwyn profi’r llawenydd oedd o’i flaen, dyma fe’n dal ei dir ar y groes gan wrthod ystyried y cywilydd o wneud hynny, a bellach mae’n eistedd yn y sedd anrhydedd ar yr ochr dde i orsedd Duw yn y nefoedd! Meddyliwch sut wnaeth e ddiodde’r holl wrthwynebiad gan bechaduriaid – wnewch chi wedyn ddim colli plwc a digalonni.
Darllen Hebreaid 12
Gwranda ar Hebreaid 12
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Hebreaid 12:1-3
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos