Hosea 14
14
Troi yn ôl ar yr ARGLWYDD
1O Israel, tro yn ôl at yr ARGLWYDD dy Dduw.#gw. Deuteronomium 30 Dy ddrygioni wnaeth i ti syrthio. 2Siarad gydag e. Tro yn ôl ato, a dweud, “Maddau’n llwyr i ni am ein drygioni. Derbyn ein gweddi o gyffes. Derbyn ein mawl fel offrwm i ti. 3Dydy Asyria ddim yn gallu’n hachub. Wnawn ni ddim marchogaeth i ryfel. Wnawn ni ddim galw ‘ein duwiau’ ar y delwau wnaethon ni byth eto. ARGLWYDD, dim ond ti sy’n garedig at yr amddifad!”
Yr ARGLWYDD yn addo maddau
4“Dw i’n mynd i’w gwella o’u gwrthgilio,
a’u caru nhw’n ddiamod.
Dw i’n mynd i droi cefn ar fy llid.
5Bydda i fel gwlith i Israel –
bydd hi’n blodeuo fel saffrwn,
a bydd ganddi wreiddiau dwfn fel coed Libanus.#14:5 fel coed Libanus Hebraeg, “fel Libanus”, sy’n cyfeirio, mae’n debyg, at goed cedrwydd enwog Libanus.
6Bydd ei blagur yn tyfu;
bydd yn hardd fel coeden olewydd,
a bydd ei harogl yn hyfryd fel fforestydd Libanus.
7Bydd pobl yn byw eto dan ei chysgod.
Bydd fel ŷd yn tyfu neu winwydden yn lledu;
bydd yn enwog fel gwin Libanus.
8Fydd gan Effraim#14:8 Effraim Effraim oedd prif lwyth teyrnas Israel, ac mae’n aml yn cynrychioli’r wlad yn gyfan. ddim i’w wneud ag eilunod byth eto!
Bydda i’n ateb ei weddi ac yn gofalu amdano.
Dw i fel coeden binwydd fytholwyrdd,
bydda i’n rhoi ffrwyth i chi drwy’r flwyddyn.”
Her i’r un sy’n darllen y broffwydoliaeth
9Pwy sy’n ddoeth? Bydd e’n deall.
Pwy sy’n gall? Bydd e’n gwybod.
Mae ffyrdd yr ARGLWYDD yn iawn –
bydd pobl gyfiawn yn eu dilyn,
ond y rhai sy’n gwrthryfela yn baglu.
Dewis Presennol:
Hosea 14: bnet
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2023